Stori newyddion

Trawsnewid y farchnad eiddo

Heddiw, lansiwyd ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020/21: Trawsnewid y farchnad eiddo.

Mae ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2020 i 2021 yn nodi sut y bu i’n hymateb i’r pandemig gyd-fynd â’n rhaglen drawsnewid barhaus i symud ymlaen tuag at ddyfodol digidol.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn bwysig iawn i bawb. Mae’r disgwyliadau o ran sut y gallai ac y dylid gwerthu eiddo wedi newid am byth wrth i fanteision trafodion di-bapur ddod yn gliriach byth. Ymatebasom gyda buddsoddiadau cyflymedig i’n trawsnewid digidol a fyddai’n gwella’r sefydliad ac yn cefnogi creu marchnad eiddo wirioneddol ddigidol.

Cafodd ein rôl hanfodol gryn sylw yn ystod y pandemig. Ein blaenoriaeth dros y flwyddyn ddiwethaf oedd sicrhau na fu ymyrraeth â thrafodion eiddo a pharhau i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid. Trwy awtomeiddio’r gwasanaethau a ddefnyddir amlaf, sicrhawyd y gallai trafodion eiddo barhau yn ystod cyfnodau’r cyfyngiadau symud cenedlaethol a lleol. Trawsnewidiodd y sefydliad o un a oedd yn gweithredu bron yn gyfan gwbl o’r swyddfa i un lle gallai dros 90% o’n cydweithwyr ddarparu’n gwasanaethau o bell.

Fel yr unig sefydliad sy’n gysylltiedig â bron pob trafodiad eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydym mewn sefyllfa unigryw a da i yrru a chyflawni’r newidiadau sy’n ofynnol. Rydym wedi gweithio’n agos gydag ystod eang o fudd-ddeiliaid i sicrhau bod ein gwaith yn y maes hwn yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid. Mae’r dull cydweithredol hwn wedi bod yn hanfodol wrth inni ymateb i ddigwyddiadau amrywiol y flwyddyn ddiwethaf wrth gyflwyno dulliau newydd arloesol a allai ddod â manteision enfawr i’r broses drawsgludo yn y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weithredwr a Phrif Gofrestrydd Tir Simon Hayes:

Rwy’n ymfalchïo yn y ffordd rydym wedi gweithio gyda’n gilydd gyda chydweithwyr, cwsmeriaid a budd-ddeiliaid, mewn ysbryd o gydweithredu i sicrhau y gallai’r farchnad eiddo yng Nghymru a Lloegr barhau i weithredu’n effeithiol.

Gwasanaethau newydd

Cyflwynwyd llofnodion electronig and gwiriadau hunaniaeth digidol gennym fel ymateb cyflym i gyfyngiadau symud. Clywsom fod y rhain yn brif flaenoriaethau i’n cwsmeriaid. Erbyn hyn, mae’r rhain yn ddau ddarn pwysig a pharhaol o’r darlun trawsgludo digidol, sy’n galluogi trafodion a wneir yn gyfan gwbl ar-lein ac yn ddi-bapur.

Cyflwynwyd teclyn newydd i’r porthol, o’r enw View My Applications, sy’n caniatáu i gwsmeriaid weld statws eu holl geisiadau cyfredol yn gyflym ar un sgrin. Eleni, lansiwyd ein Gwasanaeth Cofrestru Digidol arloesol. Mae hyn yn cynnwys gwirio gwallau awtomataidd, sy’n helpu cwsmeriaid i sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei darparu ym mhob cais a gyflwynir ganddynt, gan leihau oedi dilynol. Enillodd y gwasanaeth gategori Darparu Profiad Ardderchog i Gwsmeriaid yng Ngwobrau Real IT 2021.

Cynyddu niferoedd ein staff

Cynyddwyd niferoedd ein staff trwy recriwtio mwy na 500 o weithwyr cais a buddsoddwyd yn ein pobl trwy lansio’r Academi Cofrestru Tir – canolfan ragoriaeth genedlaethol i oruchwylio a chefnogi’n hyfforddiant technegol, datblygiad a rhannu gwybodaeth arbenigol. Rydym hefyd yn parhau i recriwtio cyfreithwyr arbenigol o bob rhan o’r sector i fodloni gofynion gwaith cais cymhleth heddiw.

Nid oedd mwyafrif llethol ein cydweithwyr wedi gweithio gartref cyn Mawrth 2020, ond maent wedi croesawu technoleg gweithio o bell ac wedi teimlo mwy o gysylltiad â’r sefydliad ac â’i gilydd nag erioed o’r blaen. Ein sgôr ymgysylltu â staff yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020 oedd 71%, sy’n welliant o 8% ar 2019/20 a’r uchaf a gofnodwyd gennym erioed, gan ein gosod yn 18fed allan o 106 o sefydliadau llywodraethol a gymerodd ran yn yr arolwg, ac yn gyntaf ymhlith sefydliadau tebyg.

Dangosyddion perfformiad

Mae gwaith caled a menter ein cydweithwyr wrth wasanaethu ein cwsmeriaid yn ystod y flwyddyn bandemig yn cael eu hadlewyrchu yn ein dangosyddion perfformiad. Arhosodd ymddiriedaeth cwsmeriaid yn uchel – nododd 79% o gwsmeriaid ein bod naill ai’n dda neu’n rhagorol wrth sicrhau uniondeb a chywirdeb y Gofrestr Tir – 2% yn uwch nag yn 2019/20. Mae hawliadau indemniad a dangosyddion eraill ar gyfer gwall a thwyll yn parhau i fod yn isel iawn ar y cyfan ac yn gyson â blynyddoedd blaenorol.

Cyhoeddwyd ar 15 July 2021