Stori newyddion

Gall prynwyr cartrefi ddefnyddio eu ffôn symudol nawr i brofi eu hunaniaeth

Cofrestrfa Tir EM yn paratoi’r ffordd gyda safon newydd ar gyfer gwiriadau hunaniaeth digidol diogel.

Mae Safon Hunaniaeth Ddigidol gyntaf Cofrestrfa Tir EM yn cael ei lansio heddiw. Mae’n darparu rhestr gam wrth gam o ofynion ar gyfer defnydd trawsgludwyr o wasanaethau digidol i gadarnhau hunaniaeth eu cleient yn ddiogel ac yn gyfleus ar-lein.

Mae’r safon newydd yn ddewisol. Fodd bynnag, mae’n cynnig ‘Lloches Ddiogel’ i’r trawsgludwyr hynny sy’n cwrdd â’r gofynion. Ni fyddai Cofrestrfa Tir EM yn hawlio digollediad erbyn trawsgludwyr sy’n cydymffurfio â’r safon pe na bai eu cleientiaid yr hyn yr oeddent yn ei honni.

Mae hyn yn gwneud cadarnhau hunaniaeth yn llawer mwy cyfleus gan y gellir ei wneud ar unrhyw adeg, heb yr angen i gwrdd yn gorfforol, ar gyfer pob cleient p’un ai yw’n breswyl neu’n fasnachol. Mae hefyd yn darparu gwell diogelwch trwy ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio ffonau smart i dynnu gwybodaeth wedi ei hamgryptio sydd wedi ei chynnwys mewn sglodion dogfennau, megis pasbortau.

Dywed Mike Harlow, Cwnsler Cyffredinol, Dirprwy Brif Weithredwr a Dirprwy Brif Gofrestrydd Tir:

Gall profi eich hunaniaeth wrth brynu neu werthu eich eiddo fod yn boen. Ond wrth gwrs, mae’n hanfodol i ddiogelwch trafodion gwerth uchel o’r fath. Mae’r safon newydd hon ar gyfer gwirio hunaniaeth biometreg ddigidol yn nodi carreg filltir gyffrous tuag at broses drawsgludo wirioneddol ddigidol.

Mewn blwyddyn heriol, sefydlwyd fforwm traws-ddiwydiant gennym i gefnogi ein cydweithwyr trawsgludo. Yn gyntaf, cyflwynwyd llofnodion electronig i gael gwared ar unrhyw angen am bapur wrth drawsgludo. Nawr, trwy’r un cydweithrediad hwn, gallwn ddod â safon hunaniaeth ddigidol newydd i leihau’r risg o dwyll a gwneud trafodion yn brofiad mwy digidol, haws a chyflymach.

Mae rhyddhau’r safon hon yn nodi cam allweddol arall tuag at ddyfodol trawsgludo. Mae’n darparu glasbrint clir i ddarparwyr technoleg ddatblygu ystod o opsiynau diogel a chyfleus i gefnogi trawsgludwyr yn well.

Bydd Cofrestrfa Tir EM yn parhau i ddatblygu a theilwra’r safon trwy ehangu’r cwmpas i ymgorffori gwahanol endidau cyfreithiol ac archwilio argaeledd dulliau digidol gwell o gael tystiolaeth i gysylltu’r parti i’r trafodiad â’r eiddo penodol. Ar hyn o bryd mae’r Adran dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn datblygu ‘fframwaith ymddiried’ trosfwaol ar gyfer defnyddio hunaniaeth ddigidol ar draws yr economi. Bydd Cofrestrfa Tir EM yn parhau i weithio’n agos gyda’r Adran dros Dechnoleg Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon dros y misoedd nesaf i sicrhau aliniad.

Gellir gweld trosolwg manylach o’r ymatebion i’r Safon Hunaniaeth Ddigidol ddrafft, ynghyd â sut yr ymgorfforwyd yr awgrymiadau hyn, yn y blog diweddaraf gan Robin Malpas ac Abbie Purslow. Mae’r safon ar gael yn ein Cyfarwyddyd ymarfer 81 newydd.

Cyhoeddwyd ar 12 March 2021