Datganiad i'r wasg

Trafod hyfforddiant ar gyfer y Sector Ynni yn ystod ymweliad â choleg

Guto Bebb yn ymweld a'r campws yn Llangefni

Bydd Coleg Menai - Grŵp Llandrillo Menai yn croesawu Guto Bebb AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru i’w Gampws yn Llangefni yr wythnos hon.

Bydd Dafydd Evans, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai a Dr Ian Rees, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Busnes y Grŵp yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gweinidog am sut mae’r coleg yn datblygu o ran ei genhadaeth i sicrhau bod gan bobl leol y sgiliau i fanteisio ar gyfleoedd yn y Sector Ynni.

Ar ôl clywed y wybodaeth ddiweddaraf, bydd taith o amgylch Canolfannau Adeiladu ac Ynni’r coleg ynghyd â chyfarfod bwrdd crwn y sector ynni a fydd yn cynnwys Prifysgol Bangor, Ardal Fenter Eryri a Pharciau Eco Orthios cyn i’r gweinidog symud ymlaen i Safle Wylfa Newydd.

Mae disgwyl i lu o gyfleoedd ddod i Ynys Môn yn sgil sefydlu Gorsaf Pŵer Niwclear Wylfa Newydd a phrosiectau ynni eraill, fel ynni’r tonnau a safle biomas yn safle Alwminiwm Môn gynt.

Un o bynciau tebygol y sgwrsio yn ystod yr ymweliad yw’r gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni gyda Pŵer Niwclear Horizon.

Mewn digwyddiad lansio yng Ngholeg Menai yr wythnos hon (06/02/2017), cyhoeddodd Pŵer Niwclear Horizon y byddai’n recriwtio 12 Prentis arall i ymuno â’i gynllun hyfforddiant, gan gynyddu nifer Prentisiaid Niwclear Horizon sydd eisoes dan hyfforddiant i 22.

Mae’r coleg hefyd wedi cyflwyno cais cynllunio i ddatblygu ei gampws yn Llangefni a fyddai’n golygu adleoli darpariaeth Peirianneg y coleg i Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd gwerth £15m yn Llangefni.

Dywedodd Dafydd Evans:

Edrychwn ymlaen at gyfarfod adeiladol gyda Guto yn Llangefni y bore yma. Mae’n hanfodol ein bod yn rhoi’r diweddaraf i’n cynrychiolwyr yn San Steffan ar y gwaith sy’n cael ei wneud yma yng Ngogledd-orllewin Cymru i ddatblygu Peirianneg a sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg eraill. Gyda Brexit fel cwmwl du ar y gorwel, mae’n hanfodol ein bod yn cael y sgyrsiau hyn nawr er mwyn i ni baratoi ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Guto Bebb, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru:

Mae’n bleser gen i ymweld â Choleg Menai a Wylfa heddiw i weld y dechnoleg arloesol fydd yn cael effaith gadarnhaol ar economi Ynys Môn. Mae’n bwysig clywed gan sefydliadau a busnesau yng Nghymru ynghylch y problemau a’r cyfleoedd a wynebir ganddynt yn dilyn Brexit, a pharhau â’r sgyrsiau rydyn ni wedi bod yn eu cael drwy gydol yr haf.

Mae Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn ymdrin â pholisi mewn modd cydgysylltiedig, gyda’r nod o sicrhau economi gystadleuol a medrus iawn sydd o fudd i bobl ym mhob cwr o’r wlad. Mae Coleg Menai yn enghraifft wych o sefydliad yng Ngogledd-orllewin Cymru sy’n gweithio i sicrhau bod gan bobl ifanc y sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ar gyfer y farchnad fyd-eang ac i weithio mewn diwydiant sy’n cael ei ddatblygu yn eu hardal leol.

Dywedodd Greg Evans, Cyfarwyddwr Diogelwch a Chynhyrchu Horizon:

Mae Coleg Menai a Horizon eisoes wedi dangos sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd drwy baratoi’r ffordd ar gyfer y Ganolfan Hyfforddiant Peirianneg newydd a chynnig cyfleoedd i bobl ifanc leol gael prentisiaeth gyda Horizon. Byddwn yn parhau i symud ymlaen mewn partneriaeth, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, i sicrhau’r manteision enfawr y bydd Wylfa Newydd yn eu cynnig i Ynys Môn a Gogledd Cymru am nifer o ddegawdau.

Cyhoeddwyd ar 9 February 2017