Datganiad i'r wasg

Toyota yn dathlu 25 mlynedd o weithgynhyrchu yng Nghymru

Ymunodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS â’r dathlu yn ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy

Minister for the UK Government in Wales, Guto Bebb MP at Toyota Deeside / Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS yn ffatri Toyota ar Lannau Dyfrdwy

Rhyddhawyd yn wreiddiol gan Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd.

Ar 6 Hydref, roedd Toyota Motor Manufacturing (UK) Ltd yn dathlu 25 mlynedd o weithgynhyrchu injans cerbydau yng Nghymru. Y gwesteion arbennig yn y seremoni oedd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS ac Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates AC.

Ers dechrau cynhyrchu injans yn 1992 mae’r ffatri wedi cynhyrchu dros 5.1 miliwn o injans / setiau injans ac yn 2010 dyma’r ffatri gyntaf y tu allan i Japan i weithgynhyrchu injan Hybrid arloesol Toyota.

Mae’r ffatri injans ar hyn o bryd yn cyflenwi i ffatrïoedd Toyota yn Ewrop a ledled y Byd yn cynnwys Affrica, Twrci, Japan a De America. Mae’r cyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd yn cynhyrchu injans petrol 1.6ltr ac 1.8ltr ac injans Hybrid 1.8ltr.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, Guto Bebb AS:

Mae wedi bod yn bleser gweld manteision buddsoddiad hirsefydlog Toyota yng Nglannau Dyfrdwy i economi ranbarthol gogledd Cymru.

Heddiw rydyn ni’n dathlu’r swyddi cynaliadwy a grëwyd gan Toyota yn yr ardal, sy’n cyfrannu at economi gryfach yng Nghymru ac yn y DU. Mae hefyd yn cydnabod ymrwymiad y ffatri i dechnoleg sydd ar flaen y gad o ran injans, gan wneud Cymru yn allforiwr blaenllaw ym maes injans Hybrid.

Gan wneud sylwadau ar y garreg filltir bwysig hon, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith:

Rydw i wrth fy modd o fod yn Toyota i ddathlu 25 mlynedd o gynhyrchu injans yma ar Lannau Dyfrdwy. Fel Llywodraeth rydyn ni’n falch o’n perthynas gadarn â Toyota. Yn wir, dyma un o’n prif gwmnïau angori, ac o safbwynt strategol, mae’n eithriadol o bwysig i economi gogledd Cymru ac i economi Cymru yn gyffredinol.

Mae Toyota yn adnabyddus ac yn uchel ei barch ledled y byd. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at barhau â’n perthynas gynhyrchiol â’r cwmni ac rydw i’n ffyddiog y bydd mwy o gerrig milltir o lawer i ni eu dathlu gyda’n gilydd.

Ychwanegodd Jim Crosbie, Cyfarwyddwr Toyota Manufacturing UK:

Mae hon yn garreg filltir bwysig i ffatri Injans Toyota Manufacturing UK. Mae’n cadarnhau ymrwymiad hirdymor Toyota i’r economi ac i ddarparu swyddi ym maes gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru. Rydyn ni’n falch o fod yng Nghymru a hoffem ddiolch i Lywodraeth Cymru ac i lywodraethau lleol, ein cymunedau lleol ac yn arbennig i’n haelodau a’n cwsmeriaid.

Mae heddiw yn gyfle i bawb sy’n gysylltiedig â Toyota yng Nghymru ddathlu cyflawniadau’r 25 mlynedd diwethaf ac rydw i’n edrych ymlaen at wynebu’r heriau a’r cyfleoedd newydd yn y blynyddoedd i ddod.

Cyhoeddwyd ar 6 October 2017