Stori newyddion

Cyllideb ‘anodd ond teg’ i Gymru, meddai Ysgrifennydd Cymru

Mae Cyllideb frys heddiw yn amlinellu cynllun pum mlynedd pendant er mwyn ailadeiladu economi Prydain, cyflwyno system dreth decach a sicrhau…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Cyllideb frys heddiw yn amlinellu cynllun pum mlynedd pendant er mwyn ailadeiladu economi Prydain, cyflwyno system dreth decach a sicrhau bod ffyniant yn cael ei rannu’n decach ym mhob rhan o’r DU - gan gynnwys Cymru, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Cymru.

Bydd y pecyn mesurau cytbwys a gyhoeddwyd gan y Canghellor George Osborne heddiw yn helpu i fynd i’r afael a’r diffyg mwyaf yn y gyllideb a welwyd mewn cyfnod o heddwch, ond bydd hefyd yn sicrhau cymorth ar gyfer y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ychwanegodd.

Meddai Mrs Gillan: “Er bod y Gyllideb anorfod hon yn anodd, mae hi hefyd yn deg, ac yn seiliedig ar dair egwyddor, sef cyfrifoldeb, rhyddid a thegwch. Bydd yn helpu ein gwlad i dalu’r biliau am orwariant y gorffennol, gan adfer hyder yn yr economi a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus i Gymru ac i weddill y DU.

“Bydd cynlluniau ar gyfer twf mwy cytbwys a chynaliadwy yn sicrhau bod ffyniant y dyfodol yn cael ei rannu’n decach ar draws y wlad, yn wahanol i’r hyn ddigwyddodd yn y ddegawd diwethaf, pan oedd rhai rhanbarthau’n gwneud cymaint yn well nag eraill. Bydd y mesurau a gyhoeddwyd heddiw yn dwyn budd i filoedd o fusnesau ar hyd a lled Cymru.  Er enghraifft, bydd cynllun tair blynedd yn eithrio busnesau y tu allan i Lundain, De Ddwyrain a Dwyrain Lloegr rhag hyd at £5,000 o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr am bob un o’r 10 gweithiwr cyntaf a gyflogant.”

Roedd Mrs Gillan hefyd yn croesawu diwygiadau treth a fydd yn fanteisiol i fusnesau ac i unigolion yng Nghymru.  Dywedodd: “Bydd gostyngiadau yn y Dreth Gorfforaethol yn dangos i’r byd bod Cymru ar agor i fusnes.  

“Fel y gwnaethom addo yn ystod yr ymgyrch etholiadol, byddwn yn dileu elfen fwyaf niweidiol y dreth ar swyddi a fyddai wedi golygu bod pobl ar gyflog isel yn colli’u gwaith ac a fyddai wedi gwneud cymaint o ddifrod i’n hadferiad.  Erbyn hyn, gall cwmniau sefydlu eu hunain, buddsoddi a chreu swyddi yng Nghymru, gyda’r sicrwydd bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i greu’r system dreth gorfforaethol fwyaf cystadleuol o blith holl wledydd y G20.”

Gallai tua 4,100 o unigolion yng Nghymru gael budd hefyd o’r penderfyniad i beidio a diddymu’r rheolau treth arbennig ar gyfer tai gwyliau wedi’u dodrefnu, fel y cynigiwyd yng Nghyllideb 2009.  Meddai Mrs Gillan: “Gwn y bydd hyn yn cael ei groesawu gan ddiwydiant twristiaeth Cymru, sydd mor bwysig i’n heconomi.” 

Dywedodd Mrs Gillan y bydd diwygiadau o ran lles yn amddiffyn y bobl dlotaf yng Nghymru, yn ogystal a phensiynwyr a’r rheini sydd ar gyflog isel. “Fel y dywedodd y Canghellor, bydd pob rhan o’r gymdeithas yn cyfrannu at leihau’r diffyg, ond y cyfoethocaf fydd yn talu’r mwyaf a bydd y rheini sydd fwyaf agored i niwed yn cael eu gwarchod - yn enwedig yr hen a’r ifanc - felly er bod y Gyllideb hon yn arbed biliynau o bunnoedd, ni fydd cyfraddau tlodi plant yn cynyddu.”

Ychwanegodd: “Yng Nghymru, bydd bron i 1.1miliwn o bobl sy’n talu’r dreth ar y gyfradd sylfaenol yn elwa o hyd at £170 yr un yn sgil y £1000 o gynnydd yn y lwfans personol ar gyfer treth incwm i’r rheini sydd dan 65 oed. Bydd oddeutu 600,000 o bensiynwyr Cymru hefyd yn elwa o benderfyniad y Canghellor i ail greu’r cyswllt rhwng y pensiwn sylfaenol ac enillion, gyda chynnydd wedi’i warantu bob blwyddyn er mwyn i ni allu sicrhau urddas i bobl ar ol iddynt ymddeol.”

Dywedodd Mrs Gillan hefyd y byddai cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y dyfodol yn cael ei phennu gan yr Adolygiad o Wariant ar 20 Hydref.  Yn y cyfamser, nid oes symiau canlyniadau Barnett newydd ar gyfer Cymru yn y gyllideb hon heblaw am addasiad bach i’r pecyn rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd fel rhan o ailgylchu arbedion ar 24 Mai.

Cyhoeddwyd ar 22 June 2010