Stori newyddion

Miloedd o brentisiaid i gymryd rhan mewn astudiaeth fawr o gyflogau

Mae Arolwg Tâl Prentisiaeth 2016 yn brosiect ymchwil pwysig sy’n darparu gwybodaeth am hyfforddiant, oriau a chyflog gan y rheiny sy’n gwneud prentisiaeth ar hyn o bryd.

Bydd y Llywodraeth yn defnyddio’r canfyddiadau i’w helpu i osod polisi tâl yn gyffredinol ac i wneud gwelliannau i hyfforddiant prentisiaid. Ni fydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i dargedu prentisiaid neu gyflogwyr penodol neu ar gyfer gweithredu camau gorfodi.

Bydd IFF Research, sy’n gorff ymchwilio annibynnol, yn gwneud cyfweliadau ffôn byrion gydag oddeutu 10,000 o brentisiaid a byddent yn gofyn cwestiynau am dâl ac oriau.

Bydd prentisiaid yn cael eu holi am faterion megis:

  • nifer yr oriau gwaith mewn wythnos arferol.

  • nifer yr oriau ychwanegol ar gyfer dysgu a hyfforddi ar ben eich gwaith arferol. (Gallai hyn gynnwys mynd i’r coleg, cyrsiau, gweithdai neu sesiynau hyfforddi yn y gweithle neu a gynhelir yn allanol, dysgu o gartref, dysgu o werslyfrau, amser gyda’ch asesydd, ac amser yn llenwi portffolio.)

  • beth yw eich tâl (yn ddelfrydol faint rydych yn ei ennill mewn termau gros h.y. cyn treth, yswiriant gwladol a didyniadau eraill).

Bydd yr atebion i’r cwestiynau yma’n ein galluogi i edrych ar lefelau cyflog yn genedlaethol, mesur newidiadau ers blynyddoedd blaenorol ac i fonitro a yw cyflogwyr yn glynu at y rheolau ar gyflog teg.

Bydd prentisiaid sy’n cael eu dewis i gymryd rhan yn yr arolwg yn derbyn llythyr cyn derbyn galwad gan un o’r ymchwilwyr.

Cafwyd arolwg tebyg yn 2014.

Cyhoeddwyd ar 25 May 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 May 2016 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.