Stori newyddion

Cyhoeddi lleoliad trydydd Canolfan Gwasanaethau y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd

Bydd trydydd Canolfan Gwasanaethau y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn cael ei hagor yn Loughborough.

Graphic of various communications channels
  • Fel rhan o’r rhaglen ddiwygio gwerth £1 biliwn, bydd Canolfannau Gwasanaethau y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn darparu mynediad rhwyddach at wasanaethau cyfiawnder.
  • Mae cynlluniau yn mynd rhagddo i agor y ddwy ganolfan gyntaf yn Stoke-on-Trent a Birmingham ym mis Ionawr 2019.

Mae Canolfannau Gwasanaethau y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn elfen allweddol o’r broses o drawsnewid y llysoedd a’r tribiwnlysoedd. Byddant yn dod ag arbenigedd o wahanol feysydd ynghyd o dan un to a gwella a moderneiddio prosesau i ddarparu gwasanaethau gwell ac esmwythach i ddefnyddwyr y system gyfiawnder. Bydd y canolfannau gwasanaethau yn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at y gefnogaeth maent ei hangen yn gyflymach, yn rhwyddach, ac mewn un lle.

Mae Loughborough bellach wedi cael ei ddewis fel lleoliad y trydydd o’r canolfannau hyn. Mae hyn yn dilyn y canolfannau hynny sydd eisoes wedi’u cynllunio i fod yn weithredol yn Stoke-on-Trent a Birmingham o fis Ionawr 2019.

Bydd oddeutu 200 o weithwyr yn gweithio yn y ganolfan yn Loughborough, a fydd yn dod â chyfanswm nifer y staff yn y tri lleoliad i oddeutu 1000 o bobl. Disgwylir y bydd y ganolfan yn gyfan gwbl weithredol erbyn mis Mai 2020 ond efallai bydd gwasanaethau cyfiawnder yn dechrau symud i’r lleoliad tuag at ddiwedd 2019. Byddant yn delio â phob agwedd ar brosesu achosion, gan gynnwys ceisiadau newydd, cymryd ymholiadau gan y cyhoedd a defnyddwyr proffesiynol a chefnogi’r farnwriaeth gyda symud achosion yn eu blaenau a rhestru gwrandawiadau.

Meddai Nicky Morgan, Aelod Seneddol dros Loughborough:

Mae mynediad at gyfiawnder yn hynod bwysig, felly rwyf wrth fy modd y bydd Canolfan Gwasanaethau diweddaraf y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd wedi’i lleoli yn Loughborough. Mae hyn hefyd yn newyddion da ar gyfer cyflogaeth leol, gan gadarnhau bod ein tref ni yn lleoliad gwych ar gyfer llawer o gyflogwyr gwahanol.

Bydd hanner ein gweithlu yn parhau i fod wedi’i leoli yn y llysoedd a’r tribiwnlysoedd a byddant yn gweithio llaw yn llaw â’r canolfannau gwasanaethau newydd.

Bydd unigolion sydd eisoes yn weithwyr GLlTEM ac sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau yn cael blaenoriaeth i ymgeisio am y rolau yn y canolfannau gwasanaethau a byddant yn cael eu cefnogi drwy’r broses.

Mae cyhoeddi lleoliad y ganolfan gwasanaethau hon yn rhan o’r £1 biliwn sy’n cael ei fuddsoddi mewn trawsnewid y llysoedd a’r tribiwnlysoedd, gan ei wneud yn haws i gael mynediad at y system gyfiawnder, ei gwneud yn haws i’w defnyddio, ei rhedeg mewn ffordd fwy effeithlon a defnyddio technoleg i ddod â phrosesau cyfiawnder i mewn i’r unfed ganrif ar hugain.

Meddai Susan Acland-Hood, Prif Weithredwr GLlTEM:

Bydd ein canolfannau gwasanaethau yn trawsnewid y gwasanaethau rydym yn eu cynnig i holl ddefnyddwyr GLlTEM, gan ei wneud yn haws, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon i gael mynediad at gymorth. O ran gweithwyr GLlTEM, bydd y canolfannau gwasanaethau newydd yn darparu cyfle i weithio mewn gofodau modern sydd wedi’i ddylunio’n dda a bydd cymorth ar gael i ddatblygu eu sgiliau a’u harbenigedd yn y system gyfiawnder.

Cyhoeddwyd ar 23 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 November 2018 + show all updates
  1. Add Welsh translation

  2. First published.