Datganiad i'r wasg

Dyfodol S4C

Mae adolygiad annibynnol ar sut i sicrhau dyfodol bywiog a chynaliadwy ar gyfer y darlledwr Cymraeg S4C wedi cael ei gyhoeddi heddiw, ochr yn ochr ag ymateb y Llywodraeth. Mae'r Llywodraeth wedi derbyn holl argymhellion yr adolygiad.

S4C
  • Cyhoeddi adolygiad annibynnol yn edrych ar gynaliadwyedd S4C heddiw

  • Y prif argymhellion yn cynnwys rhagor o fewnbwn digidol, newidiadau i’r strwythur llywodraethu, a rhagor o ryddid i S4C i wneud penderfyniadau masnachol

  • Y Llywodraeth yn ymrwymo i gynnal y cyllid blynyddol cyfredol o £6.72 miliwn tan 2020

Mae’r adolygiad, dan arweiniad Euryn Ogwen Williams, yn cyflwyno pecyn o ddiwygiadau sydd â’r potensial i sicrhau newid gwirioneddol i wneud S4C yn sefydliad gwell sy’n gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn fwy effeithiol. Bydd argymhellion yr adolygiad hefyd yn allweddol wrth gryfhau annibyniaeth y darlledwr a chynyddu tryloywder ei weithrediadau.

Fel rhan o’i hymrwymiad i sicrhau dyfodol cryf ar gyfer darlledu Cymraeg, mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer S4C ar ei lefel gyfredol o £6.762 miliwn ar gyfer 2018/19 a 2019/20. Bydd hyn yn rhoi’r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar S4C ar gyfer y ddwy flynedd nesaf i gyflawni’r diwygiadau yn yr adolygiad sydd eu hangen yn fawr, nes bydd y trefniadau newydd yn dod i rym.

Secretary of State for Wales Alun Cairns said:

Yn ddi-os, mae S4C yn gwneud cyfraniad aruthrol at y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac yn allweddol iawn, at hybu’r iaith Gymraeg a’n diwylliant ledled y byd.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod pa mor bwysig yw S4C i bobl Cymru. Mae darlledu ledled y Deyrnas Unedig yn swyddogaeth a gadwyd yn ôl, a dyna pam y bydd y Llywodraeth hon yn parhau i ddarparu sicrwydd cyllid i’r sianel wrth iddi lywio’r argymhellion a nodir yn yr adolygiad dros y ddwy flynedd nesaf.

Rwy’n hyderus bod y dyfodol yn ddisglair i S4C. Rydym am weld y sianel yn parhau i ddatblygu er mwyn bodloni anghenion yr oes ddigidol, a datblygu rhai o raglenni mwyaf arloesol, awdurdodol a difyr y Deyrnas Unedig yn awr ac yn y blynyddoedd a ddaw.

Meddai’r Gweinidog dros Ddigidol a’r Diwydiannau Creadigol, Margot James:

Mae gan S4C werth diwylliannol a chymdeithasol unigryw fel unig ddarlledwr Cymraeg y byd. Rydym eisiau gweld y sianel yn parhau i ffynnu, ond, fel gyda phob darlledwr, mae angen iddi addasu i’r dirwedd gyfryngau sy’n newid. Mae’r adolygiad hwn yn nodi llwybr clir a synhwyrol ar gyfer ei dyfodol, ac rydym yn darparu’r sicrwydd ariannol sydd ei angen ar S4C i gyflawni hyn.

Dyma argymhellion yr adolygiad:

  • Dylai’r llywodraeth ddiweddaru cylch gwaith gwasanaethau cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a chael gwared ar gyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol. Bydd hyn yn galluogi S4C i ehangu ei gyrhaeddiad a chynnig ei gynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau newydd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.

  • Dylai S4C sefydlu hwb digidol mewnol i ddatblygu a gwella ôl troed digidol S4C a bod yn sail i glwstwr digidol Cymraeg.

  • Dylai S4C sefydlu partneriaeth iaith gyda Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

  • Dylai arian cyhoeddus S4C gael ei ddarparu’n llwyr drwy gyfrwng ffi’r drwydded o 2022/23 ymlaen, gyda’r holl benderfyniadau cyllido yn y dyfodol yn cael eu gwneud fel rhan o setliad cyllid ffi trwydded y BBC.

  • Dylai’r llywodraeth ystyried diwygio’r gofynion cymeradwyo cyfredol i roi mwy o ryddid i S4C i fuddsoddi a chreu refeniw masnachol.

  • Dylid newid Awdurdod S4C am fwrdd unedol newydd sy’n cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.

  • Dylai’r llywodraeth ystyried a yw trefniadau archwilio ariannol cyfredol S4C yn addas, gan gynnwys a fyddai’n briodol penodi Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol fel archwilydd allanol S4C.

Dywedodd Cadeirydd yr adolygiad annibynnol, Euryn Ogwen Williams:

Roeddwn wrth fy modd pan ofynnwyd i mi arwain ar yr adolygiad annibynnol hwn, ar bwnc sy’n agos iawn at fy nghalon.

Fel yr unig ddarlledwr Cymraeg, mae rôl S4C yn un bwysig dros ben i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yng Nghymru a thu hwnt, ac roeddwn eisiau gwneud yn siŵr y gall barhau i ffynnu yn y dirwedd gyfryngau newydd, sy’n datblygu’n gyflym. Rwy’n gobeithio y bydd fy adroddiad a’m hargymhellion yn gwarantu statws S4C fel darlledwr annibynnol a all chwarae rhan bwysig yn y bartneriaeth Gymraeg, ar ôl sicrhau sefydlogrwydd i wneud hynny dros y blynyddoedd i ddod.

Mae’r llywodraeth yn derbyn yr holl argymhellion ar gyfer y llywodraeth a wnaed gan yr adolygiad. Rydym hefyd yn disgwyl i S4C weithredu argymhellion ac awgrymiadau’r adolygiad. Mae’r llywodraeth wedi gofyn i S4C ddarparu cynllun gweithredu manwl erbyn mis Gorffennaf 2018 ar sut bydd yn cyflawni’r diwygiadau angenrheidiol.

Er y bydd rhai o’r argymhellion hyn yn debygol o olygu newid deddfwriaethol pan fydd amser seneddol yn caniatáu hynny, mae’r llywodraeth yn disgwyl i S4C weithio’n hyblyg yn y cyfamser i gyflawni’r diwygiadau hyn gymaint â phosibl oddi mewn i gyfyngiadau’r fframwaith statudol presennol.

Nodiadau i Olygyddion

  • Cadeiriwyd yr adolygiad annibynnol gan Euryn Ogwen Williams. Mae ganddo dros 50 mlynedd o brofiad o ddarlledu yng Nghymru, ac fe’i penodwyd yn seiliedig ar ei ddealltwriaeth o’r sector darlledu Cymraeg yn ogystal â’i wybodaeth am yr iaith, ei diwylliant a chymdeithas.
  • Cynhaliodd y Cadeirydd adolygiad manwl dros gyfnod o 3 mis i ystyried cylch gwaith gwasanaeth cyhoeddus S4C, ei dulliau cyllido a’i strwythurau llywodraethu. Yn ystod yr adolygiad, ystyriodd y Cadeirydd rychwant eang o farn rhanddeiliaid i lywio ei gasgliadau.
Cyhoeddwyd ar 29 March 2018