Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn galw ar fusnesau i dynnu a galw’n ôl wyau o un busnes bwyd yn Wcráin ar ôl i ymchwiliadau ganfod halogiad â Salmonela Enteritidis
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi cyhoeddi ‘Rhybudd Bwyd – Angen Gweithredu (FAFA)’ i fusnesau, gan gynnwys arlwywyr, gweithgynhyrchwyr, cyfanwerthwyr a defnyddwyr, wrth i ymchwiliadau parhaus ganfod bod wyau o un busnes bwyd yn Wcráin wedi’u halogi â Salmonela Enteritidis.
Eggs in a tray / Wyau mewn hambwrdd
Mae’r FAFA yn cynnwys cyngor gan yr ASB ac mae wedi’i anelu’n bennaf at fusnesau a allai feddu ar y cynnyrch dan sylw. Mae’n amlinellu’r cyngor i dynnu a galw’n ôl yr wyau yr effeithir arnynt o’r gadwyn gyflenwi ar unwaith. Er bod y rhan fwyaf o wyau’n cael eu defnyddio yng nghadwyn gyflenwi y diwydiant arlwyo, mae’n bosib y bydd rhai wyau ar gael i’w gwerthu mewn siopau bach. Nid yw’r wyau hyn yn cael eu gwerthu gan manwerthwyr mawr fel archfarchnadoedd.
Mae’r ASB yn cynghori pobl sydd wedi prynu unrhyw un o’r cynhyrchion yr effeithir arnynt i beidio â’u bwyta, a’u gwaredu gartref, oherwydd gallent fod yn anniogel.
Cynhaliwyd gwaith samplu ar wyau fel rhan o’r ymchwiliad parhaus i frigiad o achosion o Salmonela Enteritidis, yr amheuir ei fod yn gysylltiedig ag wyau wedi’u mewnforio.
Daeth Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) o hyd i Salmonela Enteritidis mewn samplau o wyau gan un cyflenwr yn Wcráin a chynhaliwyd gwaith dilyniannu genom cyfan. Dangosodd hyn nad oedd y straen a ganfuwyd yn cyfateb i’r straen sy’n gysylltiedig â straen y brigiad o achosion sydd dan ymchwiliad ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, roedd y straen o’r wyau’n gysylltiedig â 36 achos o haint Salmonela yr adroddwyd amdanynt yn Lloegr yn 2026.
Dywedodd Jacquelyn McCormick, Pennaeth Digwyddiadau’r ASB:
Rydym wedi canfod Salmonela Enteritidis mewn wyau a fewnforiwyd o fusnes yn Wcráin ac wedi cymryd camau brys i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Rydym yn cynghori bod unrhyw gynnyrch yr effeithir arno ar farchnad y DU yn cael ei alw a’i dynnu’n ôl. Fodd bynnag, mae’n bwysig pwysleisio nad yw’r mater hwn yn effeithio ar wyau a gynhyrchir yn y DU.
Mae wyau mewn archfarchnadoedd mawr yn cael eu cynhyrchu yn y DU, ac felly nid yw’r brigiad hwn o achosion yn effeithio arnynt. Mae’r mater hwn yn ymwneud yn benodol ag wyau a gynhyrchir gan un busnes yn Wcráin. Caiff y rhain eu cyflenwi’n bennaf drwy gyfanwerthwyr a chadwyn gyflenwi’r diwydiant arlwyo, ond mae’n bosib y bydd rhai ohonynt hefyd ar gael i’w gwerthu drwy fanwerthwyr bach.
Rydym yn annog busnesau a defnyddwyr i ddilyn ein cyngor yn y ‘Rhybudd Bwyd – Angen Gweithredu’. Ni ddylai defnyddwyr fwyta’r wyau hyn a dylai busnesau eu tynnu’n ôl, a lle bo manwerthwyr wedi’u gwerthu, eu galw’n ôl hefyd, oherwydd gallai’r wyau hyn fod yn anniogel i’w bwyta.
Mae ein cyngor ar gyfer wyau nad ydynt yn destun y ‘Rhybudd Bwyd – Angen Gweithredu’ yn aros yr un fath: Ni ddylai wyau sydd wedi’u coginio’n drylwyr a’u trin yn hylan beri risg i ddiogelwch bwyd. Dim ond os yw marc y Llew Prydeinig ar yr wyau neu os ydyn nhw wedi’u cynhyrchu o dan y cynllun ‘Laid in Britain’ y dylai babanod, plant ifanc, menywod beichiog a phobl hŷn fwyta wyau amrwd neu wyau sydd wedi’u coginio’n ysgafn.
Rydym yn parhau i weithio gydag UKHSA a phartneriaid i ddilyn y dystiolaeth, a byddwn yn parhau i gymryd y camau angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd wrth i’n hymchwiliad fynd rhagddo.
Dywedodd Hannah Charles, Epidemiolegydd Arweiniol yn UKHSA:
AFel rhan o’r gwaith profi wyau a gynhaliwyd yn ystod ein hymchwiliad parhaus i frigiad o achosion o Salmonela, gwnaethom gadarnhau bod S. Enteritidis (t5.8998) wedi’i ganfod mewn wyau a fewnforiwyd o Wcráin. Gwnaethom rannu’r wybodaeth hon â’r ASB ar unwaith er mwyn llywio camau diogelwch bwyd pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Rydym yn annog cyhoedd y DU i ddilyn cyngor yr ASB yn y ‘Rhybudd Bwyd – Angen Gweithredu’.
Mae’r straen S. Enteritidis, a nodwyd gennym yn y swp hwn o wyau sydd wedi’u mewnforio, yn wahanol yn enetig i straen S. Enteritidis sy’n gysylltiedig â’r ymchwiliad parhaus i frigiad o achosion o Salmonela, ond mae’n gysylltiedig â 36 o achosion o Salmonela yn Lloegr yr adroddwyd amdanynt yn 2026.
Yn Lloegr, mae’r holl achosion o Salmonela a ganfuwyd gan gleifion a welir mewn ysbytai neu ofal sylfaenol yn cael eu dadansoddi’n rheolaidd gan ddefnyddio gwaith dilyniannu genom cyfan. Mae hyn yn ein helpu i nodi ac ymchwilio i frigiadau posib o achosion.
Mae’r rhan fwyaf o heintiau Salmonela yn achosi dolur rhydd, poen yn y stumog, chwydu a thwymyn, sydd fel arfer yn gwella heb driniaeth ar ôl ychydig ddyddiau o salwch. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall yr haint achosi salwch difrifol, gan gynnwys sepsis, a allai olygu bod angen mynd i’r ysbyty. Mae hyn yn enwedig yn wir ymhlith plant ifanc, oedolion hŷn, menywod beichiog ac unigolion sydd â system imiwnedd wan.
Mae’r ASB yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y rhybudd yn cael ei weithredu’n gyflym. Mae’r Asiantaeth yn parhau i adolygu mesurau ehangach sy’n ymwneud â ffynhonnell y brigiad presennol o achosion, ac mae’n gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol fel rhan o’i hymchwiliad parhaus.