Datganiad i'r wasg

Y sector technoleg yn cefnogi diwydiant deallusrwydd artiffisial Prydain gyda buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd

Sector deallusrwydd artiffisial ffyniannus yng Nghymru yn cael hwb gwerth £1 biliwn

*Mae dros 50 o gwmnïau a chyrff technoleg amlwg wedi cyfrannu at ddatblygu cytundeb deallusrwydd artiffisial gwerth bron i £1 biliwn, gan gynnwys buddsoddiad o bron i £300 miliwn gan y sector preifat yn y sector yn y DU * Bydd 1,000 o ddoethuriaethau newydd ym maes deallusrwydd artiffisial dan nawdd y llywodraeth yn sicrhau bod y DU yn cadw’i lle ar flaen y gad o ran arloesi ac yn cryfhau statws y DU fel canolbwynt ymchwil deallusrwydd artiffisial * Ymhlith y cyrff yng Nghymru sy’n mynd ati’n frwd i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith mae IQE, MedaPhor, Amplyfi ac Artimus

Mae dros 50 o fusnesau a chyrff amlwg wedi cyfrannu at ddatblygu cytundeb gwerth £1 biliwn i roi’r genedl ar flaen y gad yn y diwydiant deallusrwydd artiffisial, gan gynnwys buddsoddiad newydd o bron i £300 miliwn gan y sector preifat.

Mae’r cytundeb ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a’r diwydiant, a gyhoeddwyd heddiw (Dydd Iau 26 Ebrill 2018) gan yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clark a’r Ysgrifennydd Digidol Matt Hancock, hefyd yn cynnwys dros £300 miliwn o gyllid sydd newydd gael ei ddyrannu gan y llywodraeth i ariannu ymchwil ym maes deallusrwydd artiffisial er mwyn sicrhau bod y DU yn arwain y byd o ran y dechnoleg hon.

Gan adeiladu ar sail yr ymrwymiad a wnaed yn y Strategaeth Ddiwydiannol a’i Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial, mae’r cytundeb yn nodi cam cyntaf ymgyrch fuddsoddi o bwys ym maes deallusrwydd artiffisial, sy’n canolbwyntio ar arloesi ac sydd â’r nod o gynorthwyo’r DU i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle gwerth £232 biliwn y mae deallusrwydd artiffisial yn ei gynnig i economi’r DU erbyn 2030 (10 y cant o’r cynnyrch domestig gros (GDP)).

Daw’r Fargen Sector Deallusrwydd Artiffisial wedi lefelau uwch nag erioed o fuddsoddi yn nhechnoleg y DU yn 2017, ac mae’r cytundeb heddiw yn cynnwys buddsoddiadau newydd megis: * Y cwmni cyfalaf menter o Japan, Global Brain, yn agor ei bencadlys Ewropeaidd cyntaf yn y DU ac yn buddsoddi £35 miliwn mewn cwmnïau newydd technoleg ddofn yn y DU * Prifysgol Caergrawnt yn agor uwchgyfrifiadur newydd deallusrwydd artiffisial gwerth £10 miliwn ac yn sicrhau bod ei seilwaith ar gael i fusnesau
* Bydd un o brif gwmnïau cyfalaf menter y byd, Chrysalix, sydd â’i bencadlys yn Vancouver, hefyd yn sefydlu pencadlys Ewropeaidd yn y DU ac yn ei ddefnyddio i fuddsoddi hyd at £110 miliwn mewn deallusrwydd artiffisial a roboteg * Bydd sefydliad Alan Turing a Rolls-Royce, ar y cyd, yn cynnal prosiectau ymchwil i archwilio sut gellir cymhwyso gwyddor data wrth raddfa, y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ledled cadwynau cyflenwi, peirianneg sy’n canolbwyntio ar ddata a chynnal a chadw daroganol, a rôl dadansoddeg data a deallusrwydd artiffisial mewn gwyddoniaeth.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae Cymru eisoes yn manteisio ar y cyfleoedd y mae deallusrwydd artiffisial yn eu cynnig i chwyldroi llu o feysydd gwaith gwahanol, gan gynnwys y sector meddygol a’r sector lled-ddargludyddion.

Bydd y cytundeb a gyhoeddir heddiw yn arwain at gydweithio hyd yn oed yn agosach rhwng Llywodraeth y DU a’r diwydiant yng Nghymru, gan greu swyddi mewn meysydd newydd a chreu economi sy’n gryfach ac yn fwy cadarn.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes ac Ynni, Greg Clark:

Mae deallusrwydd artiffisial yn creu cyfleoedd diderfyn i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd sy’n effeithlon ac yn hygyrch ac sy’n trawsnewid y modd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Bydd y cytundeb newydd heddiw â’r diwydiant yn sicrhau bod gennym y buddsoddiad, y seilwaith a’r gweithlu hynod o fedrus sydd eu hangen er mwyn sefydlu’r DU fel ysgogydd datblygiad technolegau deallusrwydd artiffisial a’r defnydd masnachol ohonynt.

Fel yn achos pob arloesi, ceir y potensial hefyd o gamddefnydd, a fyddai’n arwain at graffu ar y sector cyfan ac yn tanseilio hyder y cyhoedd. Dyna pam rydym yn sefydlu corff newydd a fydd yn flaengar ar lefel fyd-eang, i sicrhau bod data’n cael ei ddefnyddio mewn modd moesegol ym maes deallusrwydd artiffisial, a hynny er budd pawb.

Datblygu Sgiliau Deallusrwydd Artiffisial

Bydd y cytundeb yn gymorth i sefydlu’r DU fel canolbwynt ymchwil, â mesurau i sicrhau bod arloeswyr ac entrepreneuriaid technoleg y dyfodol wedi’u lleoli yn y DU, â buddsoddiad yn y sgiliau uwchraddedig ar lefel uchel sydd eu hangen er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial aruthrol technoleg.

Mae’n cynnwys arian i hyfforddi 8,000 o athrawon cyfrifiadureg arbenigol, 1,000 o ddoethuriaethau deallusrwydd artiffisial dan nawdd y llywodraeth erbyn 2025 ac ymrwymiad i ddatblygu rhaglen fyd-eang nodedig Cymrodoriaeth Turing er mwyn denu’r dalent ymchwil orau ym maes deallusrwydd artiffisial i’r DU a’i chadw yma.

Bydd hyn yn sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd athro TGAU cyfrifiadureg cwbl gymwys i roi i’r genhedlaeth nesaf y sgiliau y mae arni ei hangen er mwyn datblygu technoleg y dyfodol a manteisio i’r eithaf arni. Yn rhan o’r cytundeb, mae cwmni cyfrifwyr Sage hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno rhaglen beilot deallusrwydd artiffisial i 150 o bobl ifanc ledled y DU.

Canolfannau Technoleg Rhanbarthol

Bydd y Llywodraeth yn datblygu ei henw da fel canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial ac yn darparu £20 miliwn o gyllid i gynorthwyo diwydiannau gwasanaeth y DU, gan gynnwys y gyfraith ac yswiriant, â phrosiectau peilot newydd i ganfod sut gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid a gwella eu gwaith.
Defnyddir £21 miliwn hefyd i hybu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial drwy fusnesau, a hynny drwy drawsnewid Tech City UK, sydd wedi’i leoli yn Llundain ar hyn o bryd, yn Tech Nation, gan greu rhwydwaith o ganolfannau technoleg rhanbarthol uchel eu twf a fydd yn arwain ar lefel fyd-eang ledled y wlad.

Canolfan Moeseg Data gynta’r byd

Mae’r cytundeb yn tanlinellu gwaith y llywodraeth i sicrhau bod yr holl ddatblygiadau deallusrwydd artiffisial ym Mhrydain yn cael eu cynnal i’r safonau moesegol uchaf drwy sefydlu Canolfan Moeseg Data ac Arloesi a fydd yn arwain ar lefel fyd-eang. Bydd y Ganolfan gwerth £9 miliwn yn rhan bwysig o’r cynlluniau i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd i fusnesau sy’n datblygu deallusrwydd artiffisial dyfu a ffynnu. Bydd yn mynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn sgil mabwysiadu deallusrwydd artiffisial ac yn cynghori ar y mesurau sydd eu hangen er mwyn galluogi defnyddio technolegau sy’n seiliedig ar ddata mewn modd diogel, moesegol ac arloesol, gan gynorthwyo i ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Gwladol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, Matt Hancock:

Rhaid i’r DU fod ar flaen y gad o ran technolegau newydd, gan wthio ffiniau a defnyddio arloesi i newid bywydau pobl er gwell.

Mae deallusrwydd artiffisial yn ganolog i’n cynlluniau i sicrhau mai’r DU yw’r lle gorau yn y byd i gychwyn a datblygu busnes digidol. Mae gennym record wych, ac yma y mae cartref rhai o enwau mwya’r byd ym maes deallusrwydd artiffisial, megis Deepmind, Swiftkey a Babylon, ond mae cymaint mwy y gallwn ei wneud. “Drwy hybu sgiliau deallusrwydd artiffisial a thechnolegau sy’n seiliedig ar ddata, byddwn yn sicrhau ein bod yn dal ati i greu Prydain sy’n siapio’r dyfodol.

Y fargen sector newydd yw canolbwynt Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial y llywodraeth, sy’n rhan allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol fodern y llywodraeth ac sy’n amlinellu cynllun hirdymor i hybu cynhyrchiant a gallu pobl i ennill arian ledled y DU. Nod yr Her Fawr Deallusrwydd Artiffisial yw rhoi’r DU ar flaen y gad yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial a data, gan sicrhau bod buddiannau cymdeithasol ac economaidd aruthrol y dechnoleg hon yn cael eu teimlo ym mhob rhan o Brydain.

Roedd y Strategaeth Ddiwydiannol yn nodi pedair Her Fawr i roi’r DU ar flaen y gad yn niwydiannau’r dyfodol. Mae Deallusrwydd Artiffisial a Data yn un o’r rhain a’r fargen sector hon yw’r glasbrint ar gyfer cyflawni’r her.

Meddai’r Fonesig Wendy Hall:

Mae’n hynod o gyffrous gweld yr argymhellion yn yr Adolygiad o Ddeallusrwydd Artiffisial yn cael eu gwireddu trwy gyfrwng y Fargen Sector feiddgar ac uchelgeisiol hon ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Rydym mewn cyfnod holl bwysig o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ledled llu o wahanol sectorau diwydiant a chredaf o ddifrif y gall y DU arwain y blaen o ran datblygu’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn diwydiant mewn modd diogel a moesegol a fydd er budd pawb.

Bydd y fargen sector deallusrwydd artiffisial yn golygu mai Prydain yw’r lle i fod ar gyfer deallusrwydd artiffisial a bydd yn sicrhau bod y dechnoleg hon yn cael ei defnyddio er lles pobl, o fuddsoddiad y llywodraeth mewn diagnosteg gynnar a phrosiectau meddygaeth fanwl a fydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i roi diagnosis o glefydau cronig, i ymrwymiad i sefydlu Ymddiriedolaethau Data rhwng y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd er mwyn sicrhau bod data’n cael eu rhannu’n ddiogel.

Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o oblygiadau rhannu data ac achosion o dorri preifatrwydd o ran moeseg ac o ran diogelwch, mae’r Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) yn buddsoddi £11 miliwn mewn 11 o brosiectau ymchwil newydd, dan arweiniad prifysgolion, i ddadansoddi’r heriau pwysig i bobl a busnesau sy’n defnyddio data a’r rhai sy’n caniatáu mynediad i’w data. Maent hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £300 miliwn i gefnogi prosiectau ymchwil newydd er mwyn ategu’r Canolfannau Hyfforddiant Doethurol newydd.

Yn ôl Neil Crockett, Prif Swyddog Digidol Rolls-Royce:

Yn Rolls-Royce, credwn fod deallusrwydd artiffisial o bwys canolog er mwyn rhyddhau gwerth aruthrol i’n cwsmeriaid ac o fewn ein busnes ein hunain, ac er mwyn gwireddu ein nod o arloesi’r grym sy’n cyfrif.

Mae’r memorandwm cyd-ddealltwriaeth hwn yn arwydd o gyfnod newydd cyffrous ym mherthynas Rolls-Royce â Sefydliad Alan Turing. Credwn y bydd y cydweithio hwn yn cryfhau rhagor ar enw da Rolls-Royce fel cwmni sy’n arwain y blaen yn fyd-eang o ran mabwysiadu technolegau deallusrwydd artiffisial mewn cyd-destun diwydiannol. Ar yr un pryd, bydd yn cefnogi safle’r sefydliad, ac felly safle’r DU, fel canolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

Deallusrwydd artiffisial yng Nghymru

Bydd y fargen sector deallusrwydd artiffisial nid yn unig yn cefnogi’r rhai sy’n mabwysiadu deallusrwydd artiffisial am y tro cyntaf, ond hefyd yn cynorthwyo’r cwmnïau hynny o Gymru sy’n torri cwys newydd ac sydd eisoes yn defnyddio’r dechnoleg hon i greu clystyrau o arbenigedd, yn creu swyddi hynod o fedrus ac yn buddsoddi mewn datblygu’r dechnoleg hon.

Dyma rai o’r cwmnïau a’r cyrff yng Nghymru sy’n mynd ati’n frwd i gynnwys deallusrwydd artiffisial yn eu gwaith: * Mae IQE, sy’n arbenigo mewn lled-ddargludyddion, yn buddsoddi £38 miliwn ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cyfleuster newydd arloesol a fydd yn cynhyrchu cydrannau a ddefnyddir mewn cymwysiadau deallusrwydd artiffisial. * Mae MedaPhor, sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn datblygu efelychwyr uwchsain tra chywir, meddalwedd dadansoddi delweddau deallusrwydd artiffisial a systemau tywys nodwyddau realiti estynedig ar gyfer ymarferwyr meddygol. * Mae Amplyfi yn gwmni newydd deallusrwydd artiffisial sydd eisiau trawsnewid y diwydiant deallusrwydd busnes. Mae ei blatfform meddalwedd DataVoyant yn cynaeafu ac yn darllen data sydd ar gael yn gyhoeddus ar-lein ac o’r we ddofn – y rhannau hynny o’r rhyngrwyd nad ydynt yn cael eu mynegeio gan beiriannau chwilio cyffredin. Mae’r dechnoleg yn galluogi cleientiaid i ganfod amhariadau posibl i’w busnesau, boed hynny’n rhyfel, yn newid yn y farchnad, neu’n dechnoleg newydd.
* Mae Artimus yng Nghaerdydd yn darparu datrysiadau deallusrwydd artiffisial a dysgu peiriannau drwy ddefnyddio arbenigedd o ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys peirianneg.

Dyfyniadau ychwanegol:

Nicholas Sleep, Prif Swyddog Technoleg Grŵp Medaphor yng Nghaerdydd:

Rydym ni’n ceisio trosi technoleg er budd meddygon. Rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud sganio uwchsain yn haws i glinigwyr; gwneud peiriannau yn fwy deallus er mwyn cyflymu’r broses sganio, ac i gynorthwyo clinigwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau.

Mae’r Llywodraeth yn berffaith iawn i flaenoriaethu’r dechnoleg hon, a rhoi Prydain ar flaen y gad o ran defnyddio’r dechnoleg hon yn y sector meddygol, lle bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran gwella diogelwch a lleihau cost gofal iechyd.

Meddai Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys, Robert Jenrick:

Bydd deallusrwydd artiffisial yn ein galluogi i weithio’n fwy deallus, hybu ein cynhyrchiant a gwneud y wlad yn fwy cyfoethog.

O beiriannau chwilio i geir sy’n eu gyrru eu hunain, bydd y dechnoleg hon wrth graidd ein heconomi newydd. Dyna pam rydym yn parhau i gefnogi ein harloeswyr deallusrwydd artiffisial er mwyn cadarnhau safle’r DU fel arweinydd ar lefel fyd-eang o ran y dechnoleg arloesol hon.

Meddai Marc Waters, Rheolwr Gyfarwyddwr (y DU ac Iwerddon), Hewlett Packard Enterprise:

Mae deallusrwydd artiffisial yn cynnig cyfle arwyddocaol i greu mantais gystadleuol i economi’r DU, â buddiannau i gwmnïau, gweithwyr a defnyddwyr.

Ceir cyfle nid yn unig i ddefnyddio grym deallusrwydd artiffisial i arloesi a gwneud darganfyddiadau gwyddonol, ond hefyd i wella cynhyrchiant a chreu twf economaidd. Fodd bynnag, mae llawer o fentrau yn y DU yn dal i gael anhawster canfod achosion defnydd ymarferol ar gyfer eu busnes a chymryd camau gwirioneddol yn y tymor byr tuag at wireddu’r rhain. Er mwyn cynorthwyo i lenwi’r bwlch hwn, mae HPE yn buddsoddi yn yr arbenigedd deallusrwydd artiffisial a’r seilwaith uwchgyfrifiadura sydd eu hangen i gefnogi’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial, ac yn eu darparu i’r cyrff hyn.

Yn ôl yr Athro Michael Denham, Prif Weithredwr a Chyd-Sylfaenydd Mindtrace Cyf:

Yn yr un modd ag y mae technoleg cyfrifiaduron wedi bod yn fuddiol iawn inni drwy ganiatáu inni wneud cyfrifiadau cymhleth sydd ymhell y tu hwnt i allu pobl, bydd technoleg deallusrwydd artiffisial yn ein cefnogi fwyfwy yn ein gallu i wneud penderfyniadau cymhleth ac amserol, ym maes gofal iechyd, cludiant, gweithgynhyrchu, diogelwch a sawl maes arall, gyda lefelau o gywirdeb, cyflymder ac effeithlonrwydd sydd ymhell y tu hwnt i eiddo pobl, gan wella ein bywydau mewn ffyrdd yr ydym prin wedi cychwyn dod i’w deall.

Meddai Antony Walker, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol techUK:

Mae record y DU ar ddeallusrwydd artiffisial yn un sy’n creu argraff. Ond rhaid inni sicrhau bod cyflymder a graddfa’r arloesi yn parhau i gynyddu, ac mae angen inni sicrhau bod y DU yn dal ar flaen y gad o ran datblygu a defnyddio’r technolegau newydd grymus hyn.

Mae Bargen Sector Deallusrwydd Artiffisial y Llywodraeth yn darparu glasbrint clir ar gyfer y modd y gall y DU arwain y blaen ar lefel fyd-eang o ran deallusrwydd artiffisial sy’n arloesol, yn gyfrifol ac yn foesegol. Mae’r fargen sector yn canolbwyntio ar faterion allweddol cynnal arweinyddiaeth a chynyddu defnydd, gan ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen yn yr arfaeth, ynghyd â’r foeseg. Er mwyn sicrhau llwyddiant bydd angen i gwmnïau deallusrwydd artiffisial chwarae rhan fanwl yn y broses.

Yn ôl Gerard Grech, Prif Swyddog Gweithredol Tech Nation:

Un o’r newidiadau mwyaf y mae’r DU yn eu hwynebu yn ystod y 10 mlynedd nesaf yw’r newid technolegol, a bydd datblygiad deallusrwydd artiffisial yn rhan amlwg o’r newid hwnnw. Mae angen i’r DU ei dderbyn a’i siapio. Fel canolfan fyd-eang gydnabyddedig o ran arbenigrwydd deallusrwydd artiffisial, gyda chwmnïau fel DeepMind, Improbable a 5AI, mae’r DU mewn sefyllfa wych, a thrwy greu rhwydweithiau cryf o wybodaeth ac arbenigedd a rennir, gallwn ei gwneud hyd yn oed yn gryfach.

Mae Tech Nation yn awchu i gychwyn ar y gwaith o lunio ei raglen gyntaf ar gyfer y cwmnïau deallusrwydd artiffisial sy’n tyfu gyflymaf yn y DU y flwyddyn nesaf, a fydd yn gymorth i’r rheini sydd wedi profi eu potensial i gyrraedd y lefel nesaf.

Yn ôl Hugh Milward, Uwch Gyfarwyddwr, Materion Corfforaethol, Allanol a Chyfreithiol, Microsoft UK:

Mae’r DU mewn sefyllfa i wneud pethau gwych ym maes deallusrwydd artiffisial. Os gall y Fargen Sector sicrhau bod y modd y datblygir deallusrwydd artiffisial yn foesegol, yn gynhwysol ac yn gyfrifol yna bydd gan y DU, fel cartref tad deallusrwydd artiffisial, Alan Turing, ddyfodol disglair fel canolfan deallusrwydd artiffisial sy’n arwain y byd ar ddeallusrwydd artiffisial.

Nodiadau i olygyddion:

  • Gall deallusrwydd artiffisial fod â goblygiadau sy’n trawsnewid pob agwedd ar ein bywydau a phob sector o’r economi. Mae’r wobr economaidd yn amlwg: y potensial o ychwanegu 10% at gynnyrch domestig gros y DU erbyn 2030 os caiff ei fabwysiadu ar raddfa eang (PWC), a hwb o hyd at 30% i gynhyrchiant (Bank of America).
  • Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn 2017 yn dilyn yr adolygiad annibynnol o ddeallusrwydd artiffisial yn y DU yn 2017, ‘Growing the Artificial Intelligence Industry in the UK’, yn ymrwymo i’r Her Fawr o roi’r DU ar flaen gad yn y chwyldro deallusrwydd artiffisial a data, gan gynorthwyo sectorau i hybu eu cynhyrchiant trwy gyfrwng technolegau newydd, helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen ac arwain y byd o ran y defnydd diogel, moesegol o ddata.
  • Y Fargen Sector yw’r fenter fawr gyntaf dan yr her fawr, a amlinellodd gynigion ynghylch sut y gallai’r llywodraeth weithio gyda’r diwydiant i aros ar y blaen i’r gystadleuaeth a chynyddu defnydd y DU o ddeallusrwydd artiffisial ledled yr economi mewn modd diogel a moesegol, er budd pawb yn y gymdeithas.
  • Bydd y Ganolfan Moeseg Data ac Arloesi dros dro yn cychwyn gweithio ar faterion allweddol yn ddi-oed, a defnyddir ei chanfyddiadau i lywio cynllun terfynol a rhaglen waith y Ganolfan barhaol, a fydd yn cael ei sefydlu ar sail statudol maes o law. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y Ganolfan barhaol yn cael ei lansio’n fuan.
  • Rydym yn cyhoeddi heriau newydd lle byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant i ddatblygu defnydd arloesol o ddeallusrwydd artiffisial a thechnolegau dadansoddol uwch trwy gyfrwng Cronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, sy’n werth £1.7 biliwn. Ymhlith y rhain mae Gwasanaethau’r Genhedlaeth Nesaf, Diagnosteg Gynnar a Meddygaeth Fanwl, a Thrawsnewid Cynhyrchu Bwyd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 26 April 2018