Datganiad i'r wasg

Arena newydd Abertawe yn agor gyda chyllid gan Lywodraeth y DU

Mae cyrchfan newydd Bae Copr Abertawe, sy’n werth £135 miliwn, wedi cael ei hagor yn swyddogol

Image of Swansea Arena

The Digital Arena has capacity for 3,500

Mae cyrchfan newydd Bae Copr Abertawe, sy’n werth £135 miliwn, wedi cael ei hagor yn swyddogol.

Roedd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU, ymhlith y rhai a oedd yn bresennol i agor yr Arena Ddigidol yn Abertawe yn swyddogol. Mae’r lleoliad â chapasiti ar gyfer 3,500, ac wedi cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £1.3 biliwn.

Bydd y cyfleuster newydd yn cynnal ei sioe gyntaf ar 15 Mawrth pan fydd y digrifwr enwog, John Bishop, yn perfformio yno.

Mae’r Arena Ddigidol wrth galon datblygiad Bae Copr, sy’n werth £135 miliwn, ac mae parc arfordirol newydd 1.1 erw yn ei hamgylchynu. Gellir cael mynediad i’r parc gan ddefnyddio’r bont newydd sydd dros Heol Ystumllwynarth.

Dywedodd David TC Davies, Gweinidog Llywodraeth y DU:

Mae Bae Copr yn ychwanegiad gwych i Abertawe ac rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth y DU wedi cyfrannu £13.7m at y prosiect. Bydd yn denu ymwelwyr ac yn darparu cyrchfan hamdden wych i drigolion Abertawe. A bydd yn cefnogi swyddi a chyfleoedd, wrth i ni adeiladu’n gryfach ar ôl pandemig Covid.

Mae prosiectau fel hyn yn amlygu bwriad Llywodraeth y DU wrth gyfeirio at Godi’r Gwastad, ac yn golygu bod gan Abertawe ddyfodol disglair.

Hoffwn ddiolch i’n holl bartneriaid am y gwaith caled sydd wedi mynd i’r prosiect gwych hwn.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

Mae agoriad swyddogol cam un Bae Copr yn cyflawni ein haddewid i bobl Abertawe. Mae hyn yn dangos nad dinas o argraffiadau artist yw Abertawe - rydyn ni’n trawsnewid y ddinas gyda rhaglen fuddsoddi gwerth £1bn.

Bydd Bae Copr yn creu cyrchfan hamdden newydd wych a channoedd o swyddi a chyfleoedd i bobl leol, ar yr un pryd â helpu i gefnogi busnesau lleol a denu mwy o ymwelwyr a gwariant ar gyfer canol ein dinas.

Rydyn ni wedi cyflwyno’r cynllun hwn yn ystod pandemig, felly mae pawb sydd ynghlwm â’r gwaith yn haeddu clod mawr – staff y cyngor a phartneriaid cyllido, contractwyr a’n Grŵp Theatr Llysgennad, a fydd yn gweithredu ar ein rhan ac yn dod ag adloniant o’r radd flaenaf i Abertawe.

Mae Bae Copr gwerth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe, ac mae’r lleoliad eisoes yn gweithredu fel catalydd ar gyfer hyd yn oed mwy o swyddi a buddsoddiad, sy’n golygu bod Abertawe mewn sefyllfa dda iawn i ailgodi’n gyflym o effaith economaidd Covid.

Mae’n rhan allweddol o stori adfywio gwerth £1bn sy’n datblygu yn Abertawe, gan drawsnewid ein dinas i fod y ddinas orau yn y DU i fyw, gweithio ac astudio ynddi, yn ogystal ag i ymweld â hi.

Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn ar gyfer adfywio Abertawe ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu buddsoddi yn y prosiectau hyn a fydd yn cynyddu’r cysylltedd rhwng canol y ddinas a’r glannau, ac yn darparu cyfleuster o’r radd flaenaf i Abertawe a fydd yn cynyddu ei allu i gynnal digwyddiadau diwylliannol a busnes mawr. Hoffwn longyfarch yr holl bartneriaid ar gyflwyno’r prosiect hwn mewn amgylchiadau mor anodd.

Cyhoeddwyd ar 9 March 2022