Datganiad i'r wasg

Pencadlys y DVLA yn Abertawe am fod yn “ganolfan rhagoriaeth” ddigidol

Bydd pencadlys y DVLA yn Abertawe yn chwarae rhan allweddol bwysig yn y broses o drawsnewid yr asiantaeth yn ddigidol, meddai Ysgrifennydd Gwladol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd pencadlys y DVLA yn Abertawe yn chwarae rhan allweddol bwysig yn y broses o drawsnewid yr asiantaeth yn ddigidol, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan heddiw (4 Gorffennaf) yn dilyn canlyniad yr ymgynghoriad ar gynigion i ddarparu rhagor o wasanaethau’r DVLA yn electronig.

Bydd oddeutu 450 o swyddi’n cael eu creu ym mhencadlys yr asiantaeth yn Abertawe mewn cynnig sy’n ceisio canoli, moderneiddio a gwella’r gwasanaeth a ddarperir i fodurwyr sydd am wneud rhagor o drafodion ar-lein.

Bydd y cyhoeddiad yn arwain at gau 39 o swyddfeydd rhanbarthol y DVLA hyd a lled y DU, a bydd hyn yn effeithio ar 76 o swyddi yng nghanghennau’r asiantaeth yn Abertawe, Bangor a Chaerdydd. Fodd bynnag, bydd 30 o staff Abertawe yn symud i’r pencadlys, gyda 34 aelod staff Caerdydd a 12 o’r gweithwyr ym Mangor yn cael cynnig cyfleoedd i adleoli.

Dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r DVLA wedi parhau i arwain y ffordd yn y Llywodraeth, wrth ddarparu gwasanaethau yn electronig, ac mae yna achos gwirioneddol o blaid i’r asiantaeth ddarparu gwasanaeth cyflymach, mwy cost-effeithiol a hyblyg i’w chwsmeriaid.

“Mae creu hyd at 450 o swyddi ym mhencadlys yr asiantaeth yn Abertawe yn pwysleisio’r rol allweddol sydd ganddi o hyd o ran trawsnewid ei gwasanaethau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

“Mae cryfhau’r ganolfan rhagoriaeth hon yn glod i sgiliau ac arbenigedd y gweithlu, a bydd yn golygu y bydd ei chysylltiad hir a’r ddinas yn parhau.

“Er y bydd y cynlluniau hyn i gau swyddfeydd yn destun siom i’r rhai hynny a effeithir yn y swyddfeydd rhanbarthol yng Nghymru, bydd y gweithwyr hyn yn cael cynnig cyfleoedd adleoli i’r pencadlys yn Abertawe, neu o bosib, i’r gwasanaeth sifil ehangach. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd yr asiantaeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gefnogi ei gweithwyr drwy’r newidiadau hyn.”

Cyhoeddwyd ar 4 July 2012