Stori newyddion

Tyfwr coed Nadolig yn ennill cystadleuaeth i arddangos ei goeden ar Stryd Downing

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, yn ymuno â Robert Morgan, y tyfwr buddugol o gwmni Coed Nadolig Gŵyr, y mae ei goeden yn cael ei harddangos y tu allan i Rif 10 Stryd Downing

Welsh Secretary Alun Cairns joins victorious grower Robert Morgan of Gower Fresh Christmas Trees, who’s tree adorns the outside of No10

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi ymuno â Robert Morgan, ffermwr o’r Crwys, Abertawe, wrth i binwydden y tyfwr gael ei goleuo y tu allan i Rif 10 Stryd Downing heddiw (6 Rhagfyr).

Robert gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau gan gyd-dyfwyr i ennill teitl ‘Tyfwr y Flwyddyn’ Cymdeithas Tyfwyr Coed Prydain (BTGA), a bydd nawr yn darparu’r goeden Nadolig 18 troedfedd 6 modfedd a fydd yn addurno tu allan i gartref y Prif Weinidog.

Bydd y coed wedi cael eu meithrin am dros 10 mlynedd i gyrraedd uchder y gystadleuaeth, sef rhwng 1.4m a 2.2m o’r bôn i’r pen. Maent yn cael eu beirniadu ar sail eu dail, lliw, siâp a pha mor addas ydynt i’w marchnata.

Daeth Robert yn agos i’r brig yng nghystadleuaeth ‘Tyfwr y Flwyddyn’ 2014, a chafodd ddarparu pinwydden Nordman ar gyfer ystafell fwyta’r wladwriaeth yn Rhif 10. Mae ei deulu wedi ymwneud â’r diwydiant ffermio defaid a gwartheg am bum cenhedlaeth, ac fe wnaethant ddechrau plannu coed Nadolig yn 1996.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae hyn yn gyflawniad anhygoel ac yn ffordd wych o gydnabod gwaith caled Robert a’i deulu dros yr ugain mlynedd diwethaf i gynhyrchu coed Nadolig sy’n ennill gwobrau.

Mae perchnogion busnesau bach fel Robert yn cynrychioli rhan bwysig o economi Cymru, ac mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o sicrhau bod gan y busnesau hyn y gefnogaeth mae ei hangen arnynt i dyfu a bod yn llwyddiannus, a’u bod yn cael eu gwobrwyo am eu hymroddiad.

Rwy’n falch bod coeden sydd wedi’i thyfu yng Nghymru wedi cael ei dewis ar gyfer yr anrhydedd hon, ac yn dymuno Nadolig Llawen a fy llongyfarchiadau cynhesaf i Robert a’i deulu ar y diwrnod bythgofiadwy hwn.

Dywedodd Robert Morgan o Goed Nadolig Gŵyr:

Rwy’n edrych ymlaen at ein hymweliad â Stryd Downing Street heddiw, ac mae Lloyd, fy mab saith oed wedi cyffroi’n lân. Y goeden yn Stryd Downing oedd un o’r coed cyntaf i gael ei phlannu ar ein fferm yn y Gŵyr, ar ôl penderfynu mentro i’r farchnad coed Nadolig.

Mae’n deyrnged addas bod y goeden hon, sydd bron yn 20 oed, yma heddiw i ddynodi’r blynyddoedd o waith caled sydd wedi’u hymroi i gynhyrchu ein coed Nadolig.

Cyhoeddwyd ar 6 December 2017