Annog Abertawe a Chasnewydd i fachu’r cyfle i gael cyllid band eang ‘cyflym iawn’
Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn annog dinasoedd Abertawe a Chasnewydd i fachu’r cyfle i ddod yn Ddinas Uwch-Gysylltiedig, a chwyldroi…

Mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, yn annog dinasoedd Abertawe a Chasnewydd i fachu’r cyfle i ddod yn Ddinas Uwch-Gysylltiedig, a chwyldroi’r ffordd y mae eu trigolion a’u busnesau yn mynd ar-lein.
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, fod Abertawe a Chasnewydd yn gymwys i wneud cais am gyfran o’r pwrs cyllido £50 miliwn a gynlluniwyd i’w helpu i gyflwyno band eang cyflym iawn.
Dyma’r ail rownd o gyllid sydd ar gael, gyda deg o ddinasoedd mwyaf y DU, gan gynnwys Caerdydd, eisoes yn gweithio ar gynlluniau manwl i uwchraddio eu rhwydweithiau.
Heddiw (Mai 25 2012), mae’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn a phroses fidio yr ail haen o gyllid, a rhaid i ddinasoedd gynhyrchu cynlluniau ar gyfer ardal gyffiniol, gan gynnig band eang cyflym iawn sefydlog, yn ogystal a chysylltedd diwifr cyflym.
Wrth annog Abertawe a Chasnewydd i hawlio eu cyfran o’r cyllid sydd ar gael, dywedodd Mr Jones:
“Mae hwn yn gyfle gwych i’r dinasoedd hyn fanteisio ar y buddiannau a allai ddod yn sgil ennill statws Uwch-Gysylltiedig.
“Drwy gael mynediad at fand eang cyflym iawn, gallai busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd a chystadlu ag eraill ym mhedwar ban byd. Mae hefyd yn caniatau i gymunedau lleol gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn gyflymach ac yn fwy effeithiol ar-lein.
“Mae darparu band eang cyflym iawn yng Nghymru yn hanfodol os yw busnesau am dyfu a chreu’r swyddi newydd sydd eu hangen arnom. Dyna pam bod Llywodraeth y DU yn credu bod band eang yn hollbwysig nid yn unig ar gyfer bywyd bob dydd, ond hefyd ar gyfer llwyddiant economaidd y DU i’r dyfodol.
“Byddwn yn annog Abertawe a Chasnewydd i gyflwyno’r bidiau mwyaf cadarn posibl a bachu ar y cyfle i ychwanegu mwy o ddinasoedd Cymru at y rhestr uwch-gysylltiedig.”
Nodiadau i olygyddion:
Cyhoeddodd y Canghellor, George Osborne, y gronfa newydd yng Nghyllideb eleni. Rhagwelir y bydd y cyllid yn helpu i greu oddeutu 10 o ddinasoedd uwch-gysylltiedig gyda mynediad band-eang 80-100Mbps.
Cyhoeddir enwau’r dinasoedd buddugol yn Natganiad yr Hydref yn ddiweddarach yn y flwyddyn.