Datganiad i'r wasg

Arolwg yn dangos hwb i’w groesawu i sector twristiaeth Cymru

Preswylwyr Prydeinig yn cymeradwyo cyrchfannau twristiaeth poblogaidd Cymru

Mae ffigurau twristiaeth a gyhoeddwyd heddiw (2 Mehefin) yn dangos cynnydd yn yr arian y gwnaeth twristiaid Prydeinig ei wario yn ystod ymweliadau â Chymru yn ystod rhan gyntaf 2015.

Mae Arolwg Ymweliadau Dydd Prydain Fawr yn dangos bod trigolion Prydain wedi gwneud 16.8 miliwn o ymweliadau dydd â Chymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015. Mae hwn yn gynnydd o 7% ar yr un cyfnod yn 2014.

Fe wnaeth ymwelwyr dydd i Gymru gynhyrchu hwb o £575 miliwn i economi Cymru rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2015, cynnydd o 41% ar y swm a wariwyd yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Gwariodd ymwelwyr dros nos £132 miliwn yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Chwefror 2015 – cynnydd o 19% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2014.

Fis diwethaf ymwelodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, ag atyniad twristiaeth mwyaf poblogaidd Cymru, sef Castell Caerdydd. Yma, galwodd ar bobl o bob cwr o’r wlad i chwarae eu rhan i hyrwyddo Cymru a rhoi hwb i’r economi.

Meddai:

Dan do ac yn yr awyr agored, mae gan Gymru gyfoeth o atyniadau a gweithgareddau twristiaeth gwych ar gyfer ymwelwyr gydol y flwyddyn. Mae adeiladu diwydiant ymwelwyr llwyddiannus yn helpu i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi ledled y wlad, ac mae gennym oll gyfrifoldeb i hyrwyddo Cymru.

Bydd y ffigurau heddiw yn newyddion i’w groesawu i’r rheini sy’n gweithio’n galed i wneud y diwydiant pwysig hwn yn llwyddiant yn ystod misoedd yr haf hwn. Mae canlyniadau’r arolwg o dwristiaeth i’w gweld yma

NODIADAU I OLYGYDDION

Mae’r arolwg yn cael ei noddi ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, VisitEngland a VisitScotland. Mae canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn yn The GB Tourist, gyda diweddariadau chwarterol ar lefel Cymru.

Mae’r adroddiadau blynyddol yn darparu dadansoddiad ar draws Prydain Fawr gyfan, gan gynnwys ystadegau ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiadau chwarterol yn rhoi ffigurau llinell uchaf ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd ar 2 June 2015