Strategaeth band eang cyflym iawn yn sicrhau y bydd gan Gymru’r rhwydwaith band eang gorau erbyn 2015, meddai Cheryl Gillan
Bydd buddsoddiad £830 miliwn Llywodraeth y DU mewn band eang cyflym iawn yn sicrhau y bydd gan Gymru a gweddill y DU y rhwydwaith band eang …
Bydd buddsoddiad £830 miliwn Llywodraeth y DU mewn band eang cyflym iawn yn sicrhau y bydd gan Gymru a gweddill y DU y rhwydwaith band eang gorau yn Ewrop erbyn 2015, yn ol Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan.
Bydd y strategaeth band eang cyflym iawn, a gyhoeddwyd gan Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn creu ‘canolfan ddigidol’ ym mhob cymuned erbyn diwedd oes y Senedd hon. Bydd y buddsoddiad yn arwain at ail don o brosiectau yn hanner cyntaf 2011 er mwyn cyflwyno band eang cyflym iawn ledled y DU, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.
Yfory, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cynnal cyfarfod rhwng y Gweinidog Band Eang, Ed Vaizey, a’r Dirprwy Brif Weinidog i drafod y strategaeth ac i ystyried sut y gall Cymru chwarae rhan mewn prosiectau yn y dyfodol.
Wrth groesawu cyhoeddi’r strategaeth, dywedodd Mrs Gillan: “Mae rhwydwaith band eang cyflym iawn a chryf yn hollbwysig ar gyfer twf economaidd y wlad ac at ddatblygu ein diwydiannau creadigol. Rydym am i Gymru a gweddill y DU gael y system band eang orau yn Ewrop erbyn 2015 a bydd strategaeth heddiw, sy’n cael cefnogaeth gan fuddsoddiad gwerth £830m, yn helpu i gyflawni ein gweledigaeth.
“Bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau y bydd ardaloedd gwledig ac anghysbell o’r wlad yn cael budd o gyflwyno band eang cyflym iawn ar yr un pryd ag ardaloedd poblog. Nid oes ‘un’ ateb a fydd yn addas i bob ardal a dyna pam y bydd y Llywodraeth yn aros yn niwtral o ran technoleg gan ganiatau defnyddio cymysgedd o dechnolegau er mwyn i’r wlad i gyd gael budd o gyflwyno’r strategaeth hon.
“Rwy’n edrych ymlaen at gynnal cyfarfod a’r Gweinidog Band Eang a’r Dirprwy Brif Weinidog yfory i drafod sut y gall Cymru chwarae rhan hollbwysig yn y prosiectau a fydd yn deillio o ganlyniad i fuddsoddiad heddiw. Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau y bydd Cymru yn cael budd o’r prosiectau sydd i ddod ac yn elwa o fand eang cyflym iawn.”
Nodiadau
Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi £830 miliwn erbyn 2017, gan fuddsoddi £530 miliwn ohono erbyn 2015.
Mae copi o’r strategaeth ar gael yn: http://www.bis.gov.uk/policies/business-sectors/telecommunications/broadband