Stori newyddion

Cyflwyno band eang cyflym iawn yn cyrraedd carreg filltir bwysig

Mae Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi datgan bod gosod y cabinet band eang ffibr cyflym iawn cyntaf yng Nghymru heddiw yn garreg…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae Stephen Crabb AS, Gweinidog Swyddfa Cymru, wedi datgan bod gosod y cabinet band eang ffibr cyflym iawn cyntaf yng Nghymru heddiw yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrech i sicrhau bod gan y wlad rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.

Ar ol buddsoddiad sylweddol gwerth £57 miliwn gan y Llywodraeth, bydd rhannau o Fangor gyda’r cyntaf yng Nghymru i gael band eang ffibr cyflym iawn fel rhan o’r prosiect Cyflymu Cymru sy’n werth miliynau o bunnoedd.  

Mae band eang cyflym iawn wedi cael ei ddylunio i ddarparu hwb economaidd a fydd yn hybu twf a buddsoddiad, gan roi budd i filoedd o gartrefi a busnesau ar draws y DU. Gallai’r rheini ym Mangor fod yn elwa ar fanteision y buddsoddiad hwn cyn gynhared a’r gwanwyn. Mae rhagor o gabinetau nawr hefyd yn cael eu gosod mewn rhannau eraill o’r ddinas wrth i’r gwaith cyflwyno fynd rhagddo. Yn y pen draw bydd peirianwyr yn gosod tua 17,500 cilometr o geblau ffibr optig ac yn gosod tua 3,000 o gabinetau band eang ffibr newydd mewn strydoedd ar hyd a lled Cymru. 

Dywedodd Stephen Crabb, Gweinidog Swyddfa Cymru, : 

“Mae cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig yn ein nod o wella cysylltedd band eang yng Nghymru.

“Drwy fynediad i fand eang cyflym iawn, gall busnesau dyfu, datblygu marchnadoedd newydd, creu’r swyddi sydd eu hangen arnom a chystadlu ag eraill ar draws y byd. Mae hefyd yn caniatau i gymunedau lleol yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru allu defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn gynt ac yn fwy effeithlon ar-lein.

“Mae darparu mynediad o ansawdd uchel i’r rhyngrwyd yn hollbwysig i dwf ein heconomi ac mae’r Llywodraeth yn gwneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod gan y DU rwydwaith band eang sy’n addas i’r oes ddigidol.” 

Dywedodd Ed Vaizey, y Gweinidog dros Gyfathrebu:  

“Dyma wawr oes newydd ar gyfer band eang cyflym iawn yng Nghymru. Mae Llywodraeth y DU wedi buddsoddi £57 miliwn yn y prosiect Cyflymu Cymru a fydd yn darparu band eang ffibr i 96% o gartrefi a busnesau Cymru erbyn diwedd 2015. Bydd y prosiect hefyd yn creu tua 2,500 o swyddi amser llawn, ac mae’n ein hatgoffa o gyfraniad enfawr gwaith y Llywodraeth i gyflwyno band eang ar draws y wlad at dwf economaidd.” 

Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi £530 miliwn i helpu i fynd a band eang cyflym iawn i ardaloedd gwledig a £150m arall ar gyfer cynlluniau band eang trefol cyflym iawn, gan roi’r band eang cyflym iawn gorau yn Ewrop i’r DU erbyn 2015. Mae Bangor ymysg yr wyth lleoliad cyntaf yng Nghymru i elwa ar y cynllun, gyda Chaernarfon, Dolgellau, Porthaethwy, Porthmadog, Pwllheli, Glynebwy a Thredegar.

Cyhoeddwyd ar 22 February 2013