Datganiad i'r wasg

Llysgenhadon 'Un Cam Yn Wyrddach'

Mae saith llysgennad newydd wedi ymuno â’r anturiaethwr o lanelwy Ash Dykes cyn Uwchgynhadledd Hinsawdd COP26, gyda’r bwriad o chwilio am fwy

  • Mae saith o Lysgenhadon ‘Un Cam yn Wyrddach’ wedi ymuno â’r anturiaethwr o Lanelwy, Ash Dykes, cyn Uwchgynhadledd COP26 ym mis Tachwedd, gyda’r bwriad o chwilio am fwy
  • Bydd y Llysgenhadon newydd, gan gynnwys Melissa Wilson (rhwyfwr GB), Siobhan McKenna (ReJean Denim) a Cathy Yitong Li (ymgyrchydd ieuenctid) yn rhan o 26 Llysgennad terfynol ‘Un Cam yn Wyrddach’
  • Mae’r dinasyddion a’r busnesau hyn o’r DU yno i ysbrydoli ac maen nhw’n galw ar bobl i gymryd camau mwy gwyrdd dros yr amgylchedd

Mae’r cyhoedd ym Mhrydain wedi dewis saith Llysgennad ‘Un Cam yn Wyrddach’ arall o bob rhan o’r DU sy’n mynd y filltir ychwanegol wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Byddan nhw’n ymuno â’r 13 Llysgennad presennol, gan ysbrydoli’r cyhoedd i fynd gam yn fwy gwyrdd ac adrodd eu straeon yn COP26.

Cafodd yr anturiaethwr o Lanelwy, Ash Dykes, ei enwi fel rhan o’r garfan gyntaf o Lysgenhadon ym mis Awst oherwydd ei waith yn codi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd yn ystod ei deithiau, sy’n cynnwys cerdded ar hyd Afon Yangtze yn Tsieina.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Gyda’n gilydd, rydym wedi cymryd camau mawr tuag at sicrhau dyfodol mwy gwyrdd ac mae miloedd o bobl ar draws Cymru’n gwneud eu rhan. Mae COP26 a’r rhaglen Llysgenhadon ‘Un Cam yn Wyrddach’ yn gyfle gwych i ddangos y camau y mae pobl yn eu cymryd i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Wrth i ni nesáu at uwchgynhadledd COP26, bydd mwy o bobl ifanc ar draws Cymru yn gallu ymuno ag Ash fel enghreifftiau gwych o arweinwyr hinsawdd, ac rydw i’n gobeithio y byddwn ni’n cael rhagor o enwebiadau cyn y dyddiad cau er mwyn iddynt gael eu cydnabod am eu gwaith.

Dywedodd Darpar Lywydd COP26 Alok Sharma:

Mewn ychydig llai na mis, bydd y DU yn cynnal cynhadledd hollbwysig y Cenhedloedd Unedig ar y newid yn yr hinsawdd COP26 yn Glasgow i ddod â gwledydd at ei gilydd i ymrwymo i weithredu ar yr hinsawdd yn fyd-eang a hynny ar frys. Rydyn ni’n arwain y ffordd yn y DU – wrth i ni arloesi mewn technolegau glân newydd, rydyn ni’n creu miloedd o swyddi da, buddsoddiad glân mewn cymunedau lleol, a dyfodol mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol.

Mae miloedd o gymunedau ledled y wlad yn gwneud eu rhan hefyd. Felly, yn y cyfnod cyn COP26, rydyn ni’n dathlu’r camau mae pobl ar draws y DU eisoes yn eu cymryd ac mae ein Llysgenhadon Un Cam yn Wyrddach yn arwain y ffordd drwy ysbrydoli ac annog y genedl i gymryd rhan.

Mae’r saith Llysgennad arall a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys Cathy Yitong Li (ymgyrchydd ieuenctid), Melissa Wilson (rhwyfwr Tîm GB), Waimi, Mbetmi ac Yimi Fongue (hyrwyddwyr glân), Maria Antonieta Nestor (A Toy’s Life and Beyond), Siobhan McKenna (sylfaenydd y brand ffasiwn moesegol ReJean Denm), Clare Every (blogiwr bwyd figan) ac Aam Khan (perchennog busnes eco ymwybodol).

Mae’r Llysgenhadon ‘Un Cam yn Wyrddach’ yn parhau i chwilio’n genedlaethol am y chwech arall a fydd yn cynrychioli eu gwlad ac yn rhannu eu straeon yn COP26 – sydd â’r nod o fod y COP mwyaf cynhwysol erioed.

Gall unigolion enwebu eu hunain neu bobl yn eu cymunedau sydd, yn eu barn nhw, yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Gall y rheini sy’n cael eu henwebu gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau, cydweithwyr, arweinwyr cymunedol neu entrepreneuriaid: unrhyw un sy’n gweithredu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac ysbrydoli eraill i ddilyn eu camau gwyrdd. Gallwch chi enwebu rhywun yma.

Mae’r rhestr lawn o Lysgenhadon ‘Un Cam yn Wyrddach’ o’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cynnwys Aamir Khan (perchennog busnes eco ymwybodol), Maria Antonieta Nestor (A Toy’s Life and Beyond), Melissa Wilson (rhwyfwr GB), Clare Every (blogiwr bwyd figan), Waimi, Mbetmi and Yimi Fongue (hyrwyddwyr glân), Siobhan McKenna (ReJean Denim), Cathy Yitong Li (ymgyrchydd ieuenctid), y Fonesig Jackie Daniel (GIG), Alice Powell (Envision Virgin Racing), Hugo Chambers (Sainsbury’s), Jasmine Allen (SSE), Toby McCartney (MacRebur), Sara Thomson (The Leith Collective), James Lloyd-Jones (Jones Food Company), Emer Rafferty (amgylcheddwr ifanc), Ade Adepitan (medalydd paralympaidd a chyflwynydd teledu), Max La Manna (cogydd gwastraff isel), Rob Thompson (Odyssey Innovation), Ash Dykes (anturiaethwr ac athletwr eithafol) a Buffy Boroughs (Green Gathering Festival).

Cyhoeddwyd ar 30 September 2021