Datganiad i'r wasg

Cryfhau cwlwm teuluol carcharorion: y ‘llinyn aur’ i leihau aildroseddu

Ysgrifennydd Cymru yn cael blas o gynlluniau adsefydlu blaengar yng Ngharchar EM y Parc

Mae cryfhau’r cwlwm teuluol yn gallu bod yn allweddol i helpu troseddwyr i weddnewid eu bywyd y tu hwnt i gatiau’r carchar meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, heddiw yn dilyn ymweliad â Charchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc (25 Hydref 2018).

Daw’r ymweliad â Charchar EM y Parc – yr unig garchar preifat yng Nghymru – yn dilyn cyhoeddi adroddiad y llynedd, a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, a oedd yn dweud mai cysylltiadau teuluol yw’r ‘llinyn aur’ sy’n rhedeg drwy’r broses o ddiwygio’r ystad carchardai.

Cafodd Mr Cairns gyfle i gwrdd â Janet Wallsgrove, cyfarwyddwr carchar y Parc, a staff y carchar i gael gweld â’i lygaid ei hun sut mae cynnwys aelodau’r teulu yng nghynlluniau adsefydlu arloesol y carchar yn cael effaith arwyddocaol o ran atal carcharorion rhag aildroseddu ar ôl cael eu rhyddhau.

Ym mis Medi 2016 cafodd yr Arglwydd Michael Farmer – ar y cyd â Clinks, elusen aelodaeth – ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU i ymchwilio i weld sut mae’r berthynas rhwng carcharorion a’u teuluoedd yn gallu gwella lles troseddwyr, helpu i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a lleihau aildroseddu.

Yn ystod yr ymweliad â Charchar EM y Parc cafodd yr Ysgrifennydd Gwladol gyfle i gwrdd â Corin Morgan-Amstrong, pennaeth ymyriadau teuluol G4S (Central Government Services) yn y DU, a eglurodd sut mae llwyddiant prosiect ‘Invisible Walls Wales’ y carchar wedi helpu i lywio Adolygiad Farmer. Soniodd hefyd am ganlyniadau amlwg y cynllun o ran adsefydlu troseddwyr.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Amgylchedd diogel a sicr mewn carchardai yw’r sylfaen i adsefydlu’n llwyddiannus. Ond fel y dangosodd adolygiad yr Arglwydd Farmer y llynedd, mae creu a meithrin cysylltiadau teuluol hefyd yn hollbwysig os yw pobl yn mynd i newid.

Mae wedi bod yn ysbrydoledig cael cwrdd â’r staff brwdfrydig yng Ngharchar EM y Parc, a gweld sut maent yn bwrw ymlaen â chynlluniau blaengar fel ‘Invisible Walls Wales’. Mae hefyd wedi bod yn brofiad cael gwrando ar garcharorion sydd wedi manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael, ac wedi defnyddio eu cymhelliant a’u brwdfrydedd personol i newid, wrth iddyn nhw droi’u golygon tuag at fywyd y tu hwnt i gatiau’r carchar.

Gyda buddsoddiad gan y Gronfa Loteri Fawr, a drwy weithio ar y cyd â Barnardo’s Cymru, mae cynllun Invisible Walls Wales yn helpu carcharorion i gryfhau cysylltiadau teuluol ac i gynnal perthynas iach â’r teulu. Mae hefyd yn rhoi cyngor iddyn nhw ar faterion fel dyledion, tai, hyfforddiant a symud tuag at fyd gwaith.

Dywedodd Janet Wallsgrove, Cyfarwyddwr Carchar EM a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc:

Mae cynlluniau fel Invisible Walls Wales, a’r amrywiaeth eang o raglenni addysgol a hyfforddiant sy’n cael eu cynnig yng Ngharchar EM y Parc, yn allweddol er mwyn helpu i adsefydlu carcharorion. Ein nod yw lleihau’r achosion o aildroseddu ar ôl i garcharorion gael eu rhyddhau, drwy sicrhau bod ganddynt y sgiliau iawn a’u bod yn cael cefnogaeth briodol yn ystod eu dedfryd, a drwy gryfhau eu cysylltiadau â’r gymuned.

Roedd yr ymweliad heddiw yn llwyddiant ysgubol, a hoffem ddiolch i’r Ysgrifennydd Gwladol am roi o’i amser i gwrdd â’r staff, gan roi cyfle iddyn nhw ddangos sut mae blaengaredd, gwasanaeth gwych a gwaith tîm yn gallu arwain at ganlyniadau rhagorol.

DIWEDD

  • I gael rhagor o wybodaeth am Garchar EM y Parc, cysylltwch â thîm cyfryngau G4S drwy ffonio 020 7963 3333.

  • I gael gwybodaeth am yr ystad carchardai a’r broses o’i diwygio, cysylltwch â desg newyddion y Weinyddiaeth Gyfiawnder drwy ffonio 020 3334 3536.

  • Mae Carchar EM y Parc yn garchar categori B i ddynion ac yn sefydliad troseddwyr ifanc ger Pen-y-bont ar Ogwr, a dyma’r unig garchar preifat yng Nghymru. Mae’n cael ei reoli gan G4S, ac mae’n un o’r carchardai mwyaf yn y DU gyda dros 1,700 o garcharorion ac 800 o staff.

  • I ddarllen adolygiad Farmer – ‘Importance of strengthening prisoners’ family ties to prevent reoffending and reduce intergenerational crime’ – cliciwch yma.

Cyhoeddwyd ar 25 October 2018