News story

Streic arholwyr gyrru – ymgeiswyr i fynychu profion

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn annog pob ymgeisydd prawf gyrru sydd wedi bwcio i gymryd prawf ar Ddydd Iau 30 Mehefin i fynychu fel arfer.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru yn annog pob ymgeisydd prawf gyrru sydd wedi bwcio i gymryd prawf ar Ddydd Iau 30 Mehefin i fynychu fel arfer er gaethaf y bygythiad o weithredu diwydiannol gan arholwyr sy’n aelodau o’r undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS).

Meddai prif weithredwr yr Asiantaeth Safonau Gyrru, Rosemary Thew:

Nid yw pob arholwr yn aelod o undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol(PCS) a hyd yn oed os ydynt, ni allwn fod yn sicr na fyddant yn dod i’r gwaith. Felly rydym am i ymgeiswyr fynychu er mwyn gallu cyflawni profion ymarferol os yn bosibl. Nid yw profion theori wedi eu heffeithio a byddant yn digwydd fel y cynlluniwyd.

Ni fydd rhaid i ymgeiswyr sy’n cyrraedd ond yn methu cymryd eu prawf oherwydd gweithredu diwydiannol gysylltu a’r DSA i drefnu dyddiad arall. Dylent glywed gennym gyda dyddiad newydd o fewn pump i 10 niwrnod gwaith. Ymddiheurwn am yr anghyfleustra fydd hyn yn achosi a byddwn yn gwneud popeth y gallwn i leihau’r aflonyddwch i’n cwsmeriaid.

Os nad oes arholwr ar gael ar gyfer prawf, bydd dyddiad newydd yn cael ei drefnu yn awtomatig gan y DSA ac fe anfonir manylion y prawf newydd at yr ymgeisydd. Os bydd ymgeiswyr yn methu mynychu, ni fyddant yn gallu hawlio treuliau parod os yw eu profion yn cael eu canslo a bydd angen iddynt aildrefnu eu profion eu hunain.

Efallai y bydd canolfan gwasanaeth cwsmeriaid y DSA ar gyfer profion ymarferol hefyd wedi ei effeithio gan y gweithredu diwydiannol. Bydd cwsmeriaid sydd am drefnu prawf ymarferol yn dal i allu defnyddio ein gwasanaeth archebu ar y rhyngrwyd yn GOV.UK

Mae manylion hawlio treuliau parod ar gael o GOV.UK

Published 28 June 2011