Datganiad i'r wasg

Stephen Crabb yn croesawu ymchwiliad y Comisiwn Ewropeaidd i fewnforion dur rhad

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi croesawu’r cyhoeddiad gan y Comisiwn Ewropeaidd y bydd yn cynnal ymchwiliad i fewnforion dur rhad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Croesawn ymchwiliad newydd y Comisiwn Ewropeaidd i fewnforion dur rhad ac mae hyn yn dangos pa mor benderfynol ydym i sicrhau chwarae teg i’r diwydiant.

“Mae Llywodraeth y DU wedi chwarae rhan flaenllaw o ran gwthio am weithredu ledled Ewrop a dal i roi pwysau ar wledydd eraill i helpu i gefnogi’r diwydiant dur.

“Ymwelais â Tata heddiw gyda’r Ysgrifennydd Busnes, Sajid Javid i drafod sut mae’r cwmni’n ymdopi â’r problemau byd-eang mae’r diwydiant dur yn eu hwynebu a sut y gall Llywodraeth y DU helpu Tata i fod â phresenoldeb sylweddol o hyd yn ne Cymru am flynyddoedd lawer i ddod.”

Cyhoeddwyd ar 12 February 2016