Stori newyddion

Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot

Cynhaliwyd y Bwrdd Pontio, a sefydlwyd i gefnogi'r bobl, busnesau a chymunedau y mae'r newid arfaethedig i greu dur carbon isel yn effeithio arnynt, ym Mhort Talbot ar 19 Hydref 2023.

Tata Steel, Port Talbot.

Cyhoeddwyd Tata Steel gynigion ym mis Medi i fuddsoddi £1.25 biliwn, gan gynnwys grant gan Lywodraeth y DU gwerth hyd at £500 miliwn, i alluogi cynhyrchu dur mwy gwyrdd ym Mhort Talbot. Mae Bwrdd Pontio bellach wedi’i sefydlu i gefnogi’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at wneud dur CO₂ isel.

Cyfarfu y Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot am y tro cyntaf ar ddydd Iau, Hydref 19 ar safle’r cwmni ym Mhort Talbot lle cytunwyd ar y ffyrdd o weithio, cylch gorchwyl y bwrdd ac aelodaeth y bwrdd. Bydd y cwmni ac Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU yn goruchwylio’r buddsoddiad mewn creu dur CO₂ isel ym Mhort Talbot ar wahân.

Bydd gan y Bwrdd Pontio hyd at £100 miliwn i fuddsoddi mewn rhaglenni sgiliau ac adfywio ar gyfer yr ardal leol. Bydd yn canolbwyntio ar:

  • Cefnogaeth enbyd i’r bobl, y busnesau a’r cymunedau yr effeithir yn uniongyrchol arnynt gan y newid arfaethedig i symud tuag at ddur CO₂ isel ym Mhort Talbot; a
  • Cynllun ar gyfer adfywio lleol a thwf economaidd ar gyfer y degawd nesaf.

David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru fydd yn cadeirio’r Bwrdd Pontio, tra bydd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru a Michael Gove, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, yn ddirprwy gadeiryddion. Mae aelodau’r Bwrdd yn cynnwys Henrik Adam, Cadeirydd Tata Steel UK; Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK; y Cynghorydd Steve Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; a Stephen Kinnock, AS dros Aberafan. Mae cynrychiolwyr o’r undebau llafur hefyd yn mynychu.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Pontio ym mis Tachwedd.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 19 October 2023