Datganiad ar ran Bwrdd Pontio Port Talbot / Tata Steel
Cafodd Bwrdd Pontio Port Talbot / Tata Steel gyfarfod ar 26 Mawrth 2026.
Cafodd Bwrdd Pontio Port Talbot / Tata Steel gyfarfod ar 26 Mawrth 2026.
Yn ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Pontio, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, gwrdd ag aelodau i drafod Strategaeth Dur Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd gan yr Adran Busnes a Masnach ar 19 Mawrth. Clywodd yr aelodau am y camau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd i ddiogelu cynhyrchiant dur domestig ac i gryfhau’r gadwyn gyflenwi ehangach ar gyfer amddiffyn a seilwaith cenedlaethol hanfodol.
Cafodd y Bwrdd y diweddariadau canlynol hefyd:
-
Diweddariad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru am y cyhoeddiad bod Llywodraeth y DU wedi cytuno ar delerau grant o hyd at £64 miliwn i Associated British Ports, er mwyn helpu i ddatblygu’r porthladd arnofiol ar y môr cyntaf yn y DU sy’n barod ar gyfer ynni gwynt, a hynny ym Mhort Talbot. Mae’r cyllid hwn yn gam cyntaf hollbwysig tuag at wireddu manteision ynni gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru.
-
Diweddariad i roi gwybod bod ymyriad olaf y Bwrdd Pontio, sef y Gronfa Twf Economaidd a Buddsoddi, bellach ar agor i geisiadau llawn. Mae’r gronfa’n cynnwys £6.78 miliwn gan Lywodraeth y DU a £5 miliwn gan Tata Steel UK a’i bwriad yw creu swyddi o ansawdd uchel a denu buddsoddiad hirdymor. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 15 Mai.**
-
Diweddariad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth y Porthladd Rhydd Celtaidd ar 18 Mawrth. Bydd y don gyntaf o gyllid cyfalaf sbarduno yn cael ei rhyddhau yn ystod mis Ebrill 2026.
-
Diweddariad gan Rebecca Evans AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ar Fargen Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Ynni Adnewyddadwy.
Fe wnaeth yr aelodau hefyd adolygu cynnydd cronfeydd y Bwrdd Pontio hyd yma, lle’r oedd tua:
-
60 o gwmnïau yng nghadwyn gyflenwi Tata Steel UK wedi cael grantiau gan Gronfa Bontio’r Gadwyn Gyflenwi.
-
140 o fusnesau yn yr ardal leol wedi cael grantiau gan y Cronfeydd Twf a Gwydnwch i Fusnesau.
-
85 o fusnesau wedi eu sefydlu gan ddefnyddio grantiau offer a hyfforddiant drwy’r Gronfa Dechrau Busnes.
-
2,520 o gyrsiau hyfforddi wedi cael eu caffael a 1,100 o gymwysterau ac achrediadau wedi cael eu hariannu.
-
Er bod dros 2,600 o bobl wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK hyd yma, a llawer mwy yn y gadwyn gyflenwi, nid oes cynnydd wedi bod mewn budd-daliadau diweithdra yn yr ardal ers mis Medi 2024.
Dyma’r rhai a oedd yn bresennol: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Rebecca Evans AoS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio; Tim Rutter, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS Aberafan Maesteg; David Rees, AoS Aberafan; Luke Fletcher AoS ar gyfer rhanbarth Gorllewin De Cymru; Anne Jessopp a Sarah Williams-Gardener, aelodau annibynnol o’r Bwrdd; ac Ian Williams, Unite the Union Wales.
** Cronfa Twf Economaidd a Buddsoddi - Cyngor Castell-nedd Port Talbot