Datganiad gan Ysgrifennydd Cymru am y glowyr sy’n gaeth mewn pwll ym Mhontardawe
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei phryder difrifol am y glowyr sy’n gaeth ym Mhwll Glo Gleision, ger Cilybebyll ym Mhontardawe…
Mae Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi mynegi ei phryder difrifol am y glowyr sy’n gaeth ym Mhwll Glo Gleision, ger Cilybebyll ym Mhontardawe heddiw, 15fed Medi 2011.
Dywedodd: “Mae’r glowyr, eu teuluoedd a’r gwasanaethau brys sy’n gweithio i’w hachub ar flaen fy meddwl. Mae’r Gwasanaethau Heddlu yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi yn rheolaidd ac rwy’n gweddio y caiff pawb eu rhyddhau’n ddiogel.