Datganiad o bymthegfed Bwrdd Pontio Tata Steel/Port Talbot
Cyfarfu Bwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot am y pymthegfed tro ar 4 Medi 2025, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS.

Bu i’r Bwrdd adolygu pa mor effeithlon yw’r cyllid sydd wedi dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hyd yma:
- Mae 37 o fusnesau’r gadwyn gyflenwi wedi cael grantiau, ac mae’r grantiau hyn wedi gwarchod bron i 200 o swyddi yn yr ardal leol;
- Mae 43 o fusnesau yn yr ardal leol wedi cael grantiau twf a gwytnwch;
- Mae 22 o fusnesau wedi eu sefydlu yn defnyddio grantiau offer a hyfforddiant
- Mae 3,667 o gyrsiau hyfforddi a chymwysterau wedi cael eu hariannu ar gyfer unigolion sydd wedi colli eu swyddi ac sy’n chwilio am yrfaoedd newydd;
- Mae 332 o bobl wedi cael cefnogaeth uniongyrchol i ganfod swyddi newydd gan wasanaethau cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot, sef gwasanaeth sy’n cael ei ariannu gan y Bwrdd Pontio;
- Mae bron i 600 o weithwyr Tata Steel a oedd mewn perygl o ddiswyddo gorfodol i ddechrau wedi cael cynnig cyfleoedd amgen o fewn y busnes; ac
- Er bod dros 2,100 wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK hyd yma, a llawer mwy yn y gadwyn gyflenwi, nid oes cynnydd mawr wedi bod yn y lefelau diweithdra lleol.
Cytunwyd nad dyma ddiwedd gwaith y Bwrdd Pontio. Er bod holl gymorth ariannol Llywodraeth y DU, oedd yn £80 miliwn, wedi’i ddyrannu erbyn hyn, mae gwaith i’w wneud o hyd i fonitro effeithiolrwydd y cronfeydd, i greu Cronfa Fuddsoddi a Thwf Economaidd newydd, ac i gefnogi buddsoddiad yn y rhanbarth a’i adfywiad yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfarfod roedd y Bwrdd wedi cael:
- Cyflwyniad gan Dîm Cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot a Busnes Cymru yn egluro’r prosesau a’r astudiaethau achos ar gyfer pobl a busnesau sy’n gwneud cais am gyllid gan y Bwrdd Pontio;
- Diweddariad gan raglen datgarboneiddio Tata Steel UK yn dilyn cychwyn y gwaith adeiladu ffwrnais arc drydan ym mis Gorffennaf 2025;
- Diweddariad gan yr Adran Busnes a Masnach ar eu cynlluniau ar gyfer y polisi dur.
Mae aelodau’r bwrdd oedd yn bresennol yn cynnwys: Y Gwir Anrhydeddus Jo Stevens AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; Jack Sargeant AoS, Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol; y Cynghorydd Steven Hunt, Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Frances O’Brien, Prif Weithredwr Cyngor Castell-nedd Port Talbot; Rajesh Nair, Prif Weithredwr Tata Steel UK; Chris Jaques, Prif Swyddog Adnoddau Dynol, Tata Steel UK; Stephen Kinnock, AS dros Aberafan Maesteg; David Rees, AoS dros Aberafan; Anne Jessopp CBE, Sarah Williams-Gardener a Jacqui Murray, aelodau annibynnol o’r Bwrdd; Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur a Metelau, yr Undeb Cymunedol; Tom Hoyles, Swyddog Gwleidyddiaeth, y Wasg ac Ymchwil, GMB Cymru a Jason Bartlett Swyddog Rhanbarthol Unite the Union Wales.