Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - Rio 2016
A Gemau Olympaidd Rio 2016 yn cychwyn heddiw, hoffwn ddymuno’r gorau i bob un o’r cystadleuwyr o Gymru.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Rt Hon Alun Cairns MP:
A Gemau Olympaidd Rio 2016 yn cychwyn heddiw, hoffwn ddymuno’r gorau i bob un o’r cystadleuwyr o Gymru. Fel tîm o 24, dyma’r nifer mwyaf o athletwyr sydd wedi cynrychioli Cymru mewn Gemau Olympaidd dramor. Dyma’r tro cyntaf hefyd i fwy o fenywod na dynion fod yn y garfan.
Bydd y menywod a’r dynion hyn yn llysgenhadon ar ran athletau a Chymru, ac mi fyddan nhw’n ennyn balchder mawr ynom yn yr un ffordd ag y gwnaeth Ashley Williams a thîm pêl-droed Cymru yn ystod cystadleuaeth Euro 2016.
Mae’r wlad gyfan yn cefnogi’n hathletwyr, ac rwy’n hyderus y bydd eu gwaith caled a’u hymroddiad yn arwain at lwyddiant. Pob lwc i gyd.