Datganiad i'r wasg

Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar etholiadau’r Cynulliad

Alun Cairns: "Fy mhrif flaenoriaeth yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gael sicrwydd economaidd i bobl yng Nghymru"

Hoffwn longyfarch Carwyn Jones ar ei lwyddiant yn yr etholiad.

Gan fod yr etholiadau drosodd erbyn hyn, fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol yw gweithio gyda Llywodraeth newydd Cymru – pa bynnag bleidiau sy’n rhan ohoni – i gael sicrwydd economaidd i bobl yng Nghymru.

Credaf fod gan Lywodraeth newydd Cymru bum blaenoriaeth glir wrth gydweithio â San Steffan.

  • Gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth iddi ddal i ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i Tata Steel.
  • Gwireddu potensial Gogledd Cymru: sefydlwyd Pwerdy’r Gogledd er mwyn meithrin cysylltiadau busnes mewn ardal sy’n ymestyn o Ogledd Cymru i Newcastle. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi pwerau i gymunedau a phobl leol i’w helpu i wireddu eu potensial a hybu twf.
  • Gwelliannau i’r M4: mae Llywodraeth y DU wedi tanysgrifennu pwerau benthyg Llywodraeth Cymru o hyd at £500 miliwn i helpu i sicrhau gwelliannau. Mae angen i ni sicrhau bod hyn yn digwydd yn fuan.
  • Y refferendwm Ewropeaidd: mae angen i bobl o wahanol bleidiau gwleidyddol ddod at ei gilydd ac egluro ein cred gyffredin y bydd Cymru’n ffynnu drwy aros mewn Undeb Ewropeaidd diwygiedig. Mae taflen Llywodraeth y DU a fydd yn cael ei dosbarthu i bob cartref yng Nghymru cyn bo hir yn amlinellu ein rhesymau dros aros. Mae angen i ni roi gwleidyddiaeth pleidiau o’r neilltu er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr yng Nghymru’n gwneud dewis sy’n seiliedig ar ffeithiau.
  • Manteisio ar y cyfleoedd a gynigir ym Mil Cymru yn y dyfodol i sicrhau Senedd go iawn i Gymru, â mwy o bwerau a Llywodraeth a fydd yn gyfrifol am godi arian yn ogystal â gwario arian.

Mae gwleidyddiaeth Cymru yn rhy aml o’r hanner wedi gweld teyrngarwch llwythol a thuedd i wrthwynebu dim ond er mwyn gwrthwynebu y naill ben a’r llall i’r M4. Mae’n bryd i ni gael agwedd bragmataidd newydd. Wrth i ni agosáu at gam nesaf datganoli yng Nghymru, fy neges i i Lywodraeth newydd Cymru yw bod angen i ni roi gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu a symud ymlaen â’r gwaith mawr o gyflawni prosiectau a fydd o fudd gwirioneddol i fywydau pobl. Os gallwn wneud hyn, yna pobl Cymru fydd yr enillwyr go iawn yn yr etholiad hwn.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2016