Stori newyddion

Sefydlogrwydd a sicrwydd’ i ddyfodol S4C, medd Gweinidog Swyddfa Cymru

Heddiw (4 Gorffennaf) mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi ymateb i gyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw (4 Gorffennaf) mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi ymateb i gyhoeddiad yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) bod rol y Llywodraeth yn goruchwylio’r broses o ddiwygio S4C bellach wedi dod i ben.

Daeth y BBC ac Awdurdod S4C i gytundeb ynghylch dyfodol a chyllid S4C hyd 2017 ym mis Hydref y llynedd.

Bydd y bartneriaeth yn sicrhau dyfodol cynaliadwy, tymor-hir i S4C a’r byd darlledu Cymraeg, gan ddiogelu annibyniaeth olygyddol a rheolaethol y sianel yn ogystal a rhoi eglurder ynghylch cyllid.

Cyfarfu Mr Jones a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol, Ed Vaizey AS, a phrif weithredwr newydd y sianel, Ian Jones, a’r cadeirydd Huw Jones, yn eu Pencadlys yn Llanisien yn gynharach eleni.

Hefyd, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn cyfarfod a chynrychiolydd Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer Cymru, Elan Closs Stephens yn nes ymlaen heddiw i drafod y diwydiant darlledu yng Nghymru.

Dywedodd Mr Jones:

“Mae gan S4C rol bwysig iawn yn adlewyrchu diwylliant ac iaith Cymru. Rydyn ni fel Llywodraeth wedi pwysleisio ein hymrwymiad i gael gwasanaeth teledu Cymraeg annibynnol a chryf droeon.

“Rwy’n falch bod nifer o bobl a diddordeb wedi gallu cyfrannu at yr ymgynghoriad ynghylch diwygio S4C, a thalaf deyrnged i bawb a fu’n rhan o hynny. Mae’r cytundeb hwn yn rhoi’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y darlledwr i fynd o nerth i nerth dan arweiniad y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld eu partneriaeth a’r BBC yn ffynnu yn y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 4 July 2012