Datganiad i'r wasg

Dydd Gŵyl Dewi 2018: Negas gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Alun Cairns: Rhaid fod yn falch o'r hyn rydyn ni'n ei gyfrannu i'r byd.

Alun Cairns

Heddiw, mae pawb gartref yng Nghymru a phobl sy’n ystyried eu hunain yn Gymry mewn gwledydd ar hyd a lled y byd, yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi a phopeth sy’n wych am ein gwlad.

Bydd plant yn mynd i’r ysgol yn eu gwisgoedd cenedlaethol; bydd cynulleidfaoedd mewn Eisteddfodau yn mwynhau barddoniaeth Gymraeg a bydd cannoedd o bobl, yn eu hetiau cennin Pedr llachar, yn cymryd rhan mewn paredau Dydd Gŵyl Dewi ym mhob cwr o’r wlad.

Rwyf bob amser wedi bod yn ymwybodol o rym yr hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymro.

Rwyf wedi teimlo hynny sawl tro yn fy rôl fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae llenyddiaeth sy’n dyddio’n ôl ganrifoedd yn y Llyfrgell Genedlaethol wedi mynd â’m bryd, ac rwy’n falch o fod wedi siarad Cymraeg mewn trafodaethau yn San Steffan.

Rwyf wedi cael fy niddanu gan Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi rhyfeddu at lwyddiannau anhygoel sêr y byd chwaraeon ar draws y byd.

Mae hanesion y Cymry dewr a fu’n ymladd dros ein rhyddid yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cyffwrdd â’m calon.

Ac rwyf wedi cael mynd yn ôl i fy mhlentyndod drwy ymweld â’n hamgueddfeydd ac Eisteddfodau.

Mae’r rhain oll yn brofiadau sy’n fy ngwneud yn falch o fod yn Gymro, ac yn falch o’r hyn rydyn ni’n ei gyfrannu i’r byd.

Pobl yw ased fwyaf Cymru ers canrifoedd.

Mae gennym agwedd ryngwladol ac rydyn ni wedi mynd â’n doniau, ein dyfeisgarwch a’n penderfyniad i lwyddo i bedwar ban byd.

Mae Cymru wedi helpu i ddod â heddwch a sicrwydd i wledydd, wedi creu rhai o ddyfeisiadau gorau’r byd, ac wedi bod ar flaen y gad o ran masnach ryngwladol ar bob cyfandir.

Oherwydd mae hon yn wlad sydd wedi cyflawni llawer mewn diwydiant, mewn technoleg, chwaraeon, cerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau - mwy na fyddai rhywun yn ei feddwl o ystyried ein maint.

Rwyf i wedi bod yn gwneud fy rhan hefyd drwy deithio o gwmpas er mwyn agor drysau i Gymru. O fy nheithiau masnach i Japan, UDA a’r Dwyrain Canol, rwyf am ddangos bod Llywodraeth y DU yn gwbl gefnogol i Gymru ac yn dymuno cyfleu neges i’r byd mai Cymru yw un o’r gwledydd gorau i fyw a gweithio ynddi, yn ogystal ag ymweld a masnachu â hi.

Ni fyddwn yn un o gyfrinachau gorau Ewrop cyn bo hir wrth i fwy o bobl ddod i weld drostyn nhw eu hunain cymaint sydd gan Gymru i’w gynnig wrth i’r tollau i groesi Pontydd Hafren gael eu diddymu’n nes ymlaen eleni ac wrth i deithiau awyren o Gaerdydd i Qatar gael eu lansio ym mis Mai.

Yn sgil y cyfnod hwn o newid pwysig, rhaid i ni floeddio’n uwch nag erioed am Gymru - ac am entrepreneuriaid, dyfeiswyr a phobl greadigol Cymru sy’n creu argraff barhaol ar draws y byd i gyd. Rhaid i ni sôn am y cyfleoedd busnes a buddsoddi sydd gennym yma, a’r ffaith ein bod ni’n gyrchfan diwylliannol a chwaraeon o’r radd flaenaf.

Heddiw, rydyn ni’n dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy chwifio baner Cymru’n uchel dros rif 10 Stryd Downing yn nerbyniad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth y DU - fel y bydd yn chwifio uwch ben eglwysi, ysgolion ac adeiladau cyhoeddus eraill ledled Cymru.

Felly gadewch i ni ddangos bod modd i ni fod yn falch o’n gwledydd unigol yn ogystal â bod yn ymroddedig i’n hundeb werthfawr o wledydd. Oherwydd, waeth pa mor wych rydyn ni ar ein pen ein hunain, fe fyddwn ni bob amser yn fwy felly gyda’n gilydd.

Unwaith eto, hoffwn ddymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus iawn i bawb yng Nghymru ac ar draws y byd. Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb.

Cyhoeddwyd ar 1 March 2018