Datganiad i'r wasg

Llanelwy: dinas ddiemwnt newydd Gogledd Cymru – Ysgrifennydd Cymru yn croesawu cyhoeddiad am y Jiwbilî

Heddiw [14 Mawrth] croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd Llanelwy yn Sir Ddinbych yn ennill…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw [14 Mawrth] croesawodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd Llanelwy yn Sir Ddinbych yn ennill statws dinas.

Roedd y gystadleuaeth anrhydeddau dinesig, a lansiwyd yn 2010, yn gwahodd awdurdodau o hyd a lled y Deyrnas Unedig i wneud cais am statws dinas i ddathlu Jiwbili Diemwnt y Frenhines. 

Cafwyd sawl cais o bob cwr o’r wlad, a dewiswyd y ddinas newydd i gydnabod ei chyfoeth o hanes, ei chyfraniad diwylliannol a’i statws metropolitan fel canolbwynt ar gyfer technoleg, masnach a busnes.

Y ddinas Eglwys Gadeiriol oedd yr unig un o’r ddwy ar hugain o esgobaethau eglwys gadeiriol hynafol yng Nghymru a Lloegr (cyn y diwygiad) nad oedd wedi cael statws dinas o’r blaen. 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU dau dinas newydd arall hefyd - Perth yn Yr Alban a Chelmsford yn Lloegr. Yn ogystal, bydd gan Armagh yng Ngogledd Iwerddon Arglwydd Faer o hyn ymlaen.

Wrth longyfarch dinas fwyaf newydd Cymru, dywedodd Mrs Gillan: “Rydw i’n falch ac wrth fy modd bod Llanelwy wedi cael ei dewis fel dinas ddiweddaraf Cymru. Roedd Llanelwy yn un o’r llefydd cyntaf i mi ymweld ag ef ar ol i mi ddechrau yn fy swyddogaeth fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ac mae’r newyddion gwych hwn yn adlewyrchu statws cynyddol Gogledd Cymru fel prif le i weithio, i fyw, i redeg busnes ac i ymweld ag ef. 

“Ym mis Mehefin, bydd trefi a dinasoedd hyd a lled y Deyrnas Unedig yn cynnal digwyddiadau i ddathlu bod Ei Mawrhydi’r Frenhines wedi bod mewn grym ers 60 mlynedd. Bydd Llanelwy yn gallu cymryd rhan yn y dathliadau hyn gyda balchder a brwdfrydedd newydd oherwydd eu statws newydd fel dinas. Bydd Cymru, yn arbennig Gogledd Cymru gyfan, yn mynd o nerth i nerth, gan adlewyrchu’r anrhydedd newydd hon.  Am ddiwrnod gwych i’n dinas newydd sbon, Llanelwy.”


  • Mae 800,000 o bobl yn ymweld a’r ddinas bob blwyddyn, ac mae’r ddinas yn darparu gwaith i 4,000 o bobl
  • Mae Parc Busnes newydd y ddinas yn darparu gwaith i 2,700 o bobl mewn dros 60 o eiddo
  • Mae’r A55 yn rhan o’r llwybr Ewropeaidd ac mae modd mynd ar y rheilffordd Caergybi i Lundain yn y Rhyl, sydd tua deg munud i ffwrdd o Lanelwy mewn car
  • Mae Llanelwy yn allweddol o ran diogelu’r iaith Gymraeg, gyda’r Esgob Morgan a William Salisbury yn cyfieithu’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin yn 1567 
  • Mae’r ddinas newydd hefyd yn gartref i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, a lansiwyd yn 1972 ac sy’n parhau i ddenu artistiaid o safon ryngwladol bob mis Medi.
Cyhoeddwyd ar 14 March 2012