Stori newyddion

De Cymru mewn sefyllfa wych i sefydlu ei hun fel y rhanbarth blaenllaw yn y sector creadigol

Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn tynnu sylw at sector creadigol llewyrchus Cymru wrth ymweld â rhai o ddiwydiannau creadigol mwyaf blaenllaw Cymru

Heddiw (21 Ionawr), bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, yn galw ar ddiwydiannau creadigol De Cymru i fanteisio i’r eithaf ar gymorth Llywodraeth y DU er mwyn datblygu i fod y rhanbarth blaenllaw yn y sector creadigol y tu allan i Lundain - er mwyn denu rhagor o swyddi sy’n gofyn am sgiliau i Gymru a rhoi hwb pellach i dwf economaidd.

Bydd y Gweinidog yn cwrdd â phobl bwysig o stiwdios Bait, Green Bay Media, Boom Cymru a Gorilla yng Nghaerdydd er mwyn gweld cyfraniad pwysig y diwydiant i’r economi.

Y llynedd, cyhoeddodd y Canghellor ein cynlluniau i ymestyn y cynllun gostyngiad yn y dreth i gwmnïau ffilm a theledu. Ers cyflwyno’r gostyngiad treth ffilm, mae wedi arwain at wario dros £7.8bn ar gynyrchiadau yn y DU, gan gefnogi 1240 o ffilmiau. Buddsoddwyd bron i £1.5 biliwn mewn cynhyrchu ffilmiau yn 2014, ac yn ystod blwyddyn lawn gyntaf y cynllun ar waith, buddsoddwyd dros £395m mewn rhaglenni teledu o’r safon orau. Yn 2014, roedd dros 50,000 o bobl o bob cwr o Gymru’n cael eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol gydag 80,000 yn yr economi creadigol ehangach.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac ar hyd a lled y DU yn gatalydd ar gyfer ein twf economaidd – yn gwneud yn well na bron iawn pob sector arall yn economi’r DU.

Mae darlledu rhanbarthol wedi dechrau cael ei ddyledus barch, gyda bron i hanner cynyrchiadau’r DU bellach y tu allan i Lundain. Mae De Cymru mewn sefyllfa wych i sefydlu ei hun fel y rhanbarth blaenllaw yn y sector hwn sy’n datblygu mor gyflym – gan ddenu mwy o swyddi sy’n gofyn am sgiliau i’r rhanbarth a rhoi hwb pellach i dwf economaidd.

Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin sector creadigol llewyrchus yma yng Nghymru. Ni ellir diystyru rôl y cwmnïau hyn yn ysgogi twf drwy greu swyddi a denu buddsoddiadau o’r tu allan.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i wneud popeth o fewn ei allu i gefnogi’r diwydiannau creadigol ar hyd a lled y wlad a chynnal ein henw da am fod yn arloesol ac yn greadigol ar draws y byd.

Bydd y Gweinidog yn dechrau ei daith o amgylch y diwydiant creadigol gyda Green Bay. Mae’r cwmni cynhyrchu cyfryngau newydd gyhoeddi bod eu cyfres ddiweddaraf, Castle Builders, wedi cael ei gwerthu i’w darlledu ar draws chwe chyfandir – gan hyrwyddo Cymru yn fyd-eang. Bydd gwylwyr o Montevideo i Montreal nawr yn gallu gweld sut cafodd cestyll Cymru, fel castell Caerffili, eu hadeiladu.

Bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld â Boom Cymru, cwmni sy’n cynhyrchu cynnwys o safon i S4C, BBC ac ITV Wales. Mae Boom Cymru’n cynhyrchu amrywiaeth eang o raglenni teledu fel 5 Star Family Reunion, sydd wedi’i chomisiynu am ail gyfres ar gyfer BBC One ar ôl cyfres gyntaf lwyddiannus iawn.

Bydd y Gweinidog hefyd yn ymweld â Stiwdios Bait a Gorilla. Mae Gorilla yn gwmni cynhyrchu ffilm a theledu yng Nghaerdydd, a ymunodd â grŵp dethol o gwmnïau teledu annibynnol yn 2015 drwy dderbyn Statws Ansawdd BBC Worldwide. Yna bydd Alun Cairns yn mynd i weld stiwdio Bait - stiwdio effeithiau gweledol a graffeg symud gyffrous.

Cyhoeddwyd ar 21 January 2016