Datganiad i'r wasg

Cyhoeddi mai De Cymru ydy un o glystyrau technoleg y DU sy’n tyfu gyflymaf

Alun Cairns: “Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n dal yn rhan o gynllun economaidd tymor hir Llywodraeth y DU”

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyhoeddwyd mai De Cymru ydy un o’r clystyrau technoleg sy’n tyfu gyflymaf yn y DU – mewn adroddiad swyddogol a gyhoeddwyd gan Tech Nation. Mae Tech Nation yn brosiect data rhyngweithiol sy’n cael ei arwain gan sefydliad sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Tech City. Mae’r sefydliad yn darparu rhaglenni sy’n canolbwyntio ar gyflymu twf busnesau digidol ar draws y DU.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n dod yn fwy digidol ac mae band eang dibynadwy yn hollbwysig yn y cartref ac yn y gwaith. Mae Cymru yn cofleidio’r newid hwn i’r digidol ac yn ffynnu o’r herwydd – gyda band eang cyflym iawn yn cael ei gyflwyno i gartrefi a busnesau ledled Cymru.

Mae rhyngrwyd cyflym yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddechrau eu busnes eu hunain a sicrhau bod busnesau sydd eisoes ar waith yn elwa o’r seilwaith gwych hwn. Mae hyn yn rhoi hwb i’r economi ac yn creu swyddi.

Mae gan Dde Cymru ddwy ddinas sydd â chysylltiad cyflym iawn a chyfnewidfa rhyngrwyd Caerdydd – sy’n golygu mai dyma un o glystyrau technoleg y DU sy’n tyfu gyflymaf. Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n dal yn rhan o gynllun economaidd tymor hir Llywodraeth y DU

Canfyddiadau Tech Nation

  • Disgwylir y bydd twf swyddi digidol yn gwneud yn well na phob categori galwedigaeth arall erbyn 2020
  • Ar hyn o bryd mae 1.46 miliwn o bobl - 7.5% o weithlu’r DU – yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau digidol
  • Mae’r clystyrau technoleg sy’n tyfu gyflymaf yn y DU o ran cwmnïau digidol newydd sydd wedi cael eu creu ers 2010 yn cynnwys: Lerpwl, Llundain Fewnol, Belfast, Manceinion Fwyaf, Bournemouth, Brighton & Hove, De Cymru a Bryste a Chaerfaddon
  • Y clystyrau sydd â’r dwysedd uchaf o gwmnïau digidol (fel cyfran o’r cwmnïau yn gyffredinol) ydy Brighton & Hove, Llundain Fewnol, Berkshire (gan gynnwys Reading), Caeredin a Chaergrawnt.
  • Y clystyrau sydd â’r trosiant cwmni cyfartalog uchaf ydy Manceinion Fwyaf, Belfast, Sheffield, Llundain Fewnol a De Cymru
  • Mae 77% o’r cwmnïau digidol mewn clystyrau yn dweud eu bod yn elwa o fynediad at rwydwaith o entrepreneuriaid i ryngweithio â nhw ac i rannu syniadau
Cyhoeddwyd ar 5 February 2015