Mentrau Bach a Chanolig i chwarae rôl allweddol wrth adeiladu carchar newydd
Dros 250 o fentrau bach a chanolig yn cael cyfle i wneud cais i gymryd rhan yn y gwaith o adeiladu carchar newydd i ogledd Cymru.

Dros y deuddydd diwethaf mae cynrychiolwyr busnes o Ogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig wedi cael cyfle i wneud cyflwyniadau i Kier, Carillon, Lend Lease ac Interserve - y pedwar contractwr sy’n ymgeisio am gael adeiladu’r carchar newydd ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Heddiw, ymwelodd y Gweinidog Carchardai, Jeremy Wright ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, â’r digwyddiad i gwrdd â chontractwyr a busnesau lleol.
Dywedodd Jeremy Wright, y Gweinidog Carchardai:
Bydd y carchar newydd hwn yn hwb enfawr i economi’r ardal, gan greu hyd at 1,000 o swyddi ac amcangyfrif o £23m y flwyddyn i’r ardal.
Busnesau bach yw anadl einioes ein gwlad ac maent yn gwbl hanfodol ar gyfer adeiladu economi gynaliadwy a gwydn. Dyna pam ein bod mor awyddus i annog contractwyr i’w defnyddio yn y broses adeiladu fawr hon.
Y carchar fydd y cyntaf i ogledd Cymru, gan alluogi troseddwyr i gael eu cadw dan glo yn nes at eu cartref a fydd yn sicrhau gwell cefnogaeth ar gyfer eu hadsefydlu a’u hailintegreiddio yn y gymuned wedi iddynt gael eu rhyddhau.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rwy’n falch fod llawer o gwmnïau lleol wedi mynegi diddordeb mewn cynorthwyo i ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen i adeiladu carchar newydd gogledd Cymru.
Drwy wella’r seilwaith ar draws ystâd y carchardai, bydd y carchar newydd yn Wrecsam yn dod â llawer o gyfleoedd cyflogaeth i’r rhanbarth.
Rydym wedi ymroi i annog busnesau llai i wneud cais am gontractau, felly mae’n dda gweld llawer o gyflenwyr lleol yn ceisio’r cyfleoedd sy’n cael eu darparu gan greu carchar newydd.
Dywedodd y Cyng. Neil Rogers, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
Rydym yn awyddus iawn i sicrhau fod cwmnïau lleol yn cael budd o adeiladu’r carchar ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle rhagorol iddynt gyfarfod a chyflwyno’u cynnyrch a’u gwasanaethau i’r prif gontractwyr sy’n bidio i adeiladu’r carchar.
Mae dros 100 o gwmnïau o Wrecsam wedi bod yn bresennol dros y ddau ddiwrnod sy’n dangos lefel y diddordeb sydd gan ddiwydiant lleol yn y datblygiad hwn a’r potensial sydd i elwa ohono.
Nodiadau i olygyddion:
-
Trefnwyd y digwyddiad gan Fwrdd Arweinyddiaeth Gogledd Cymru, sy’n cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill, ac fe’i cynhaliwyd yn Nhŵr Redwither ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam ddydd Mawrth a dydd Mercher.
-
Roedd busnesau o’r meysydd canlynol i gyd yno – gwasanaethau adeiladu cyffredinol, systemau larwm, glanhau, ffensio, gwasanaethau trydanol, saernïo gwaith metel, peintio ac addurno, asiantaethau darparu gweithwyr, plastro, diogelwch, rheoli gwastraff ac argraffu.
-
Caiff y carchar ei adeiladu ar safle hen Ffatri Firestone, yn Wrecsam. Disgwylir i waith ddechrau ar y safle yn yr haf gyda’r carchar yn gwbl weithredol erbyn diwedd 2017. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer y datblygiad yr wythnos diwethaf.
-
Pan adeiladwyd y carchar diwethaf i’w godi yn y DU gwelwyd £75m yn cael ei wario ar gyflogaeth, 113 (SME) yn cael eu cyflogi a £30m o waith adeiladu’n cael ei ddarparu gan SME o fewn 50 milltir i’r safle yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr.