Stori newyddion

Busnesau bach yn llwyddiant mawr i bob stryd fawr yng Nghymru, meddai Alun Cairns

Mae siopwyr yn cael eu hannog i lenwi pob stryd fawr yng Nghymru dros y penwythnos er mwyn dathlu’r degau ar filoedd o fasnachwyr bychain sy’n rhoi cymeriad mor unigryw i’n trefi ni.

Small Business Saturday / Sadwrn Busnesau Bach

Small Business Saturday / Sadwrn Busnesau Bach

Daw’r alwad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns, a ddangosodd ei gefnogaeth heddiw i ymgyrch flynyddol Sadwrn Busnesau Bach.

Dywedodd Mr Cairns:

Rydw i’n ceisio siopa ar fy stryd fawr leol a defnyddio masnachwyr yr ardal. O siopau cigydd a becws i siopau ffasiwn a chelf gain, rydyn ni i gyd yn dibynnu ar fasnachwyr bychain i ychwanegu lliw a dewi.

Ble bynnag rydych chi’n byw yng Nghymru, hoffwn eich annog chi i fynd allan ddydd Sadwrn a gwneud defnydd o’r amrywiaeth ragorol o fusnesau lleol sydd ar garreg eich drws. Drwy alw i mewn i fusnes bach wrth fynd heibio, gallech gael bargen wych a chefnogi swydd leol.

Gweinidog, Guto Bebb, allan ddydd Sadwrn (Rhagfyr 3) hefyd, i gefnogi economi busnesau bach Gogledd Cymru.

Mae’r sector busnesau bach yn cyflogi hanner miliwn o bobl yng Nghymru drwy fwy na 220,000 o gwmnïau.

Cymerodd Alun Cairns ran yn y Sadwrn Busnesau Bach y llynedd, ymgyrch a roddodd hwb enfawr i werthiant ledled y DU, gyda £623m yn mynd drwy’r tiliau.

I gael mwy o wybodaeth am Sadwrn Busnesau Bach, ewch i https://smallbusinesssaturdayuk.com/

Cyhoeddwyd ar 3 December 2016