Skip to main content
Datganiad i'r wasg

Busnesau bwyd bach a micro yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelwch bwyd

Yn ôl ymchwil newydd, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) heddiw, mae busnesau bwyd bach a micro ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dangos ymrwymiad cryf i ddiogelwch bwyd, er gwaetha’r pwysau economaidd parhaus sy’n wynebu’r sector.

Mae cylch diweddaraf yr Arolwg Tracio Gweithredwyr Busnesau Bwyd Bach a Micro, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod ymddiriedaeth yng nghenhadaeth graidd yr ASB yn parhau i fod yn uchel. 

  • Ymhlith y rheiny a oedd wedi clywed am yr ASB, dywedodd naw ym mhob deg busnes bwyd bach a micro eu bod nhw’n ymddiried yn yr asiantaeth i gynnal a gwella safonau diogelwch bwyd.  

  • Dywedodd bron pob busnes bach a micro sy’n gwerthu prydau bwyd neu fwyd tecawê eu bod nhw’n darparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid. 

Arferion diogelwch bwyd a gwybodaeth am alergenau 

Mae’r adroddiad yn dweud stori gadarnhaol am y sector. Teimlai’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd bach a micro fod ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am y rheoliadau a oedd yn effeithio arnyn nhw (88%). Dywedodd bron pob un eu bod nhw’n hyderus bod rheoliadau diogelwch bwyd yn effeithiol wrth ddiogelu’r cyhoedd (96%) a bod y rheoliadau hyn yn rhesymol ac yn ymarferol (88%). 

Mae nifer y busnesau sy’n darparu gwybodaeth am alergenau yn dal i fod yn uchel hefyd – mae 98% o fusnesau sy’n gwerthu prydau bwyd neu fwyd tecawê, neu sy’n pecynnu bwyd yn syth ar ôl ei werthu, yn dweud eu bod nhw’n darparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid. Roedd dwy ran o dair (66%) wedi defnyddio adnoddau’r ASB ar gyfer bwyd heb ei becynnu ymlaen llaw, ac roedd bron i hanner yn defnyddio poster alergenau. 

Ymddiriedaeth yng nghenhadaeth graidd yr ASB 

Dywedodd naw ym mhob deg busnes (91%) eu bod nhw’n ymddiried yn yr ASB i weithio’n galed i sicrhau bod rheoliadau a diogelwch bwyd yn cael eu cynnal a’u gwella. Yn ogystal, dywedodd 85% fod yr ASB yn dda am nodi lle mae safonau gwael yn bodoli a chymryd camau priodol. Mae’r ddau ffigur yn parhau i fod ymhell uwchlaw’r meincnodau nodweddiadol ar gyfer ymddiriedaeth yn y sector cyhoeddus. 

Er bod y ffigurau hyn yn dal i fod yn uchel, maen nhw wedi gostwng o 94% a 90%, yn y drefn honno, ers yr arolwg tracio blaenorol.  

Hefyd, gostyngodd cyfran y busnesau a oedd wedi dweud eu bod nhw’n gwybod “llawer” am yr ASB o 32% i 24%, a gostyngodd ymddiriedaeth yn y ffordd y mae’r ASB yn defnyddio gwybodaeth a ddarperir gan fusnesau o 94% i 87%. Bydd yr ASB nawr yn edrych ar wella ei hymgysylltiad a’i chyfathrebu â busnesau bach a micro. 

Pwysau ar fusnesau bwyd o hyd 

Mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at yr amgylchiadau heriol y mae llawer o fusnesau bwyd llai o faint yn gweithredu odanyn nhw. Dywedodd dwy ran o dair (67%) fod newid i arferion cwsmeriaid yn gysylltiedig â’r sefyllfa costau byw yn bryder, ac er bod chwyddiant, costau ynni a gwaith recriwtio yn dal i bwyso’n drwm arnyn nhw, mae hyn wedi lleihau ychydig o’i gymharu â 2023. 

Dywedodd yr Athro Rick Mumford, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwyddoniaeth ac Ymchwil yr ASB: 

Mae’r pumed cylch o’n hymchwil tracio yn dangos bod busnesau bwyd bach a micro ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn dal i ymrwymo’n gryf i ddiogelwch bwyd a bod ymddiriedaeth yng nghenhadaeth sylfaenol yr ASB yn uchel.  

Mae busnesau’n hyfforddi eu staff, yn rheoli alergenau’n dda, ac yn ymgysylltu â’n canllawiau gan wynebu heriau sylweddol a phwysau economaidd ar yr un pryd.  

Rydyn ni’n cymryd y dirywiad a welwn yn ôl rhai mesurau hyder o ddifrif ac yn ei weld yn arwydd clir ar gyfer ble mae angen inni ganolbwyntio ein gwaith cyfathrebu ac ymgysylltu. Dyma’n union pam rydyn ni’n cynnal ymchwil tracio hirdymor.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2026