Stori newyddion

Mae SLC yn lansio Rhaglen Graddedigion newydd

Mae ceisiadau ar agor erbyn hyn ar gyfer Rhaglen Graddedigion Hydref 2026 SLC

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr technoleg, data a busnes wrth i’r sefydliad ddechrau cymryd ceisiadau ar gyfer ei Raglen Graddedigion Hydref 2026.

Mae’r sefydliad, sy’n cyflogi dros 150 o bobl yng Nghyffordd Llandudno, yn cynnig nifer o gyfleoedd i raddedigion ymuno â rhaglen gylchdro dros ddwy flynedd i fagu sgiliau, ennill profiadau a chael gwybodaeth arbenigol ar draws y sefydliad.

Yn dechrau fis Hydref 2026, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn treulio 24 mis yn ennill profiad ymarferol yn un o chwe maes busnes allweddol – Gweithrediadau Cwsmeriaid (o fewn y tîm Optimeiddio Sefydliadol, Galluogi a Gwybodaeth); Canolfan Ragoriaeth Data; Uned Trosedd Economaidd; Seiberddiogelwch; Darparu Meddalwedd; a Newid.

Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro i sicrhau bod graddedigion yn cael dealltwriaeth o brosiectau busnes hollbwysig ac yn datblygu eu sgiliau drwy ddysgu yn y gweithle a modiwlau strwythuredig. Cefnogir cyfranogwyr drwy gydol y rhaglen gan gydweithwyr profiadol a mentoriaid penodedig, gan eu helpu i fagu hyder a datblygu’n gyflym.

Dywedodd Gillian Brydie, Cyfarwyddwr Gweithredol Pobl SLC:
“Mae ein Rhaglen Graddedigion yn cynnig cyfle gwych i unigolion dawnus ddechrau eu gyrfaoedd yn SLC. Dros gyfnod o ddwy flynedd, bydd graddedigion yn magu sgiliau, ennill profiadau ymarferol ar draws gwahanol feysydd o’r sefydliad, ac yn cyfrannu at waith sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cwsmeriaid. Pleser yw dechrau cymryd ceisiadau ar gyfer carfan 2026 ac edrychwn ymlaen at groesawu ein carfan newydd wrth iddynt dyfu a datblygu gyda ni.”

Ymunodd Daniel Young â Rhaglen Graddedigion SLC yn 2021 fel Swyddog Cefnogi Graddedig yn y Swyddfa Rheoli Prosiectau. Bellach, mae wedi cael swydd barhaol fel Rheolwr Prosiect Iau ac mae’n annog pobl eraill i wneud cais.
Dywedodd: “Mae Rhaglen Graddedigion SLC yn wych. Os wnewch chi fanteisio ar bob cyfle, cewch eich gwobrwyo gyda mwy o gyfrifoldebau a mwy o gyfleoedd i ddysgu. Roedd y gefnogaeth a gefais gan y rheolwyr a’m cyfoedion i ddatblygu fy ngyrfa yn anhygoel, ac rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi rhoi help llaw i mi ar hyd y daith.”
Cymerir ceisiadau ar gyfer Rhaglen Graddedigion 2026 nawr. Am ragor o wybodaeth, yn cynnwys sut mae gwneud cais, ewch i https://www.civil-service-careers.gov.uk/student-loans-company-hub/student-loans-company-emerging-talent/

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Chwefror 2026