Datganiad i'r wasg

Rhestru achosion gweithdrefn un ynad ar-lein

Bydd achosion y delir â hwy dan y Weithdrefn Un Ynad yn cael eu rhestru ar-lein fel rhan o gynllun Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM i wneud y system gyfiawnder yn fwy tryloyw.

Ministry of Justice building
  • Perthnasol i achosion Transport for London ac achosion Trwyddedu Teledu
  • Cyhoeddir y rhestrau’n ddyddiol cyn 10.30am
  • Bydd yn darparu mwy o dryloywder i’r cyhoedd a’r cyfryngau fel ei gilydd

Bydd y rhestrau, a gyhoeddir heddiw (Dydd Mercher 5 Mehefin), yn cael eu cyhoeddi’n ddyddiol cyn 10.30am ac yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Llythyren gyntaf enw cyntaf y diffynnydd a’i gyfenw
  • Y dref lle mae’r diffynnydd yn byw a dwy lythyren gyntaf y cod post
  • Y Drosedd
  • Yr awdurdod sy’n erlyn

Bydd y rhestrau, a gynhyrchir gan y system Rheoli Achosion yn Awtomatig (ATCM), yn cynnwys achosion Trwyddedu Teledu (o ranbarth Canolbarth Lloegr yn unig) ac achosion Transport for London. Dyma’r unig achosion Gweithdrefn Un Ynad sy’n cael eu gweinyddu gan ATCM ar hyn o bryd. Disgwylir y bydd pob achos Trwyddedu Teledu yn defnyddio ATCM yn ddiweddarach yn yr haf ac y bydd y system hefyd yn cael ei chyflwyno ar gyfer achosion DVLA erbyn diwedd y flwyddyn.

Bydd cyhoeddi’r rhestrau hyn ar-lein yn caniatáu llif gwybodaeth fwy cyson a dibynadwy i’r cyhoedd a’r cyfryngau, gan gynyddu tryloywder yn y system gyfiawnder.

Nodiadau i olygyddion

  • Cyflwynwyd y Weithdrefn Un Ynad (SJP) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 ac mae’n caniatáu i ddiffynyddion sy’n oedolion a gyhuddir o droseddau diannod angharcharadwy gael eu profi a’u dedfrydu ar sail y papurau gan un ynad heb wrandawiad. Os yw’r diffynnydd yn pledio’n euog ac yn cytuno i ddefnyddio SJP, neu os na chlywir gan y diffynnydd o fewn y terfyn amser, bydd yr achos yn mynd yn ei flaen o dan y SJP. Os yw’r diffynnydd yn pledio’n ddieuog neu’n dymuno cael gwrandawiad, neu’n ystyried nad yw’r broses SJP yn briodol, caiff yr achos ei reoli yn y ffordd arferol.
  • Ar hyn o bryd, mae’r rhestrau hyn yn cael eu cyhoeddi yn y llys ynadon unigol lle mae’r achos SJP yn cael ei wrando.
  • Gall y rhai sydd angen rhagor o wybodaeth (gan gynnwys enw llawn a chyfeiriad diffynyddion) ofyn am hyn drwy gysylltu â Chanolfan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd GLlTEM yn Stoke.
Cyhoeddwyd ar 5 June 2019