Stori newyddion

Penodi Simon Hart AS fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae Simon Hart wedi ymgymryd â’i rôl i Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn ei apwyntiad gan y Prif Weinidog, Boris Johnson.

Secretary of State for Wales Simon Hart

Secretary of State for Wales Simon Hart

Ail-etholwyd Mr Hart fel AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a De Penfro’r wythnos diwethaf yn dilyn yr etholiad cyffredinol ar 12 Rhagfyr.

Yn dilyn ei benodiad, ymrwymodd Mr Hart i barhau i ddarparu llais cryf dros Gymru ar fwrdd y Cabinet.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:

Mae’n anrhydedd i gael fy apwyntio i swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Rwyf nawr yn edrych ymlaen at wneud popeth y gallaf i sicrhau swyddi, cyfleoedd a buddiannau Cymru sydd wrth galon cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth y DU dros ein hundeb wych.

Mae hyn yn cynnwys cyflawni Brexit mewn ffordd sy’n gweithio dros Gymru a phob rhan o’r DU, hybu twf economaidd yng Nghymru, gyrru mewnfuddsoddiad a chreu cymdeithas decach.

Bydd fy nhîm a mi nawr yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo anghenion pob rhan o Gymru er mwyn i ni gryfhau sefyllfa ein cenedl o fewn y DU, ac yn ei thro, yn helpu i ddarparu cyfleodd gwell i genedlaethau’r dyfodol.

Cafodd yr Aelod Seneddol dros Fynwy David Davies ei apwyntio fel Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru.

Meddai Mr Davies:

Mae’n anrhydedd i wasanaethu pobl Cymru. Byddwn yn defnyddio’n llais yng nghalon Llywodraeth y DU i helpu cymunedau, sicrhau eu potensial a sbarduno twf a buddsoddiant i wneud gwahaniaeth wirioneddol i fywydau pob dydd pobl Cymru.

Cyhoeddwyd ar 19 December 2019