Y Comisiwn Silk yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd Cymru am y datblygiadau diweddaraf
Heddiw, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyfarfod ag aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i glywed yn uniongyrchol…
Heddiw, fe wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, gyfarfod ag aelodau’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i glywed yn uniongyrchol am y datblygiadau gyda’r gwaith o adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.
Lansiodd Mrs Gillan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru, y cyfeirir ato fel ‘Comisiwn Silk’, ym mis Hydref 2011.
Mae rhan gyntaf eu gwaith yn edrych ar atebolrwydd ariannol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Heddiw, manteisiodd y Cadeirydd, Paul Silk, ac aelodau eraill y Comisiwn, ar y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Ysgrifennydd Cymru am eu gwaith hyd yma, gan ystyried y gwahanol ddigwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd hyd a lled Cymru, arolwg barn ICM a gyhoeddwyd yr wythnos hon, a’r dystiolaeth ysgrifenedig gan y cyhoedd.
Adroddir ar ganfyddiadau rhan un o waith y Comisiwn Silk ddiwedd hydref 2012. Dylai canfyddiadau’r ail ran, ble bydd y Comisiwn yn edrych ar bwerau’r Cynulliad ac yn argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol, gael eu cyhoeddi yn 2014.
Wrth siarad ar ol y cyfarfod heddiw, dywedodd Mrs Gillan:
“Mae’n galonogol clywed am y cynnydd addawol y mae’r Comisiynwyr wedi’i wneud gyda rhan gyntaf eu gwaith. Mae ceisio gwella atebolrwydd ariannol y Cynulliad a Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan allweddol o gylch gwaith y Comisiwn Silk.
“Roedd yn arbennig o ddiddorol clywed am ddeilliannau’r digwyddiadau sydd wedi’u cynnal ledled Cymru a’r ymdrechion llwyddiannus i gael y cyhoedd i gymryd rhan mewn trafodaethau am ddatganoli pwerau treth a benthyca i’r Cynulliad.
“Yn 2013, bydd y Comisiwn yn rhoi sylw i ail ran ei gylch gwaith, gan edrych ar bwerau’r Cynulliad a chadarnhau a ddylid argymell diwygio’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n caniatau i setliad datganoli Cymru weithio’n fwy effeithiol.
“Bydd rhaid i argymhellion y Comisiwn ar gyfer dwy agwedd ei waith gael cefnogaeth eang, ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canfyddiadau terfynol maes o law.”
Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Paul Silk:
“Roedd y cyfarfod heddiw yn gyfle i roi’r newyddion diweddaraf i’r Ysgrifennydd Gwladol am y cynnydd gyda Rhan I ein cylch gwaith a thrafod y dystiolaeth rydyn ni wedi’i chlywed hyd yma. Yr wythnos yma, rydyn ni hefyd yn cyfarfod a Phrif Weinidog Cymru a holl arweinwyr y gwrthbleidiau yn y Cynulliad a byddwn gerbron pwyllgor cyllid y Cynulliad fory i drafod eu hadroddiad diweddar am bwerau benthyca. Mae’r cyfarfodydd hyn yn hynod bwysig wrth i ni symud ymlaen tuag at lansio ein hadroddiad yn nes ymlaen eleni.”
NODIADAU I OLYGYDDION
- Paul Silk yw cadeirydd y Comisiwn, a chyfeirir ato fel Comisiwn Silk. Mae Paul yn gyn clerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- Mae Paul yn rhan o dim cadarn y Comisiwn. Mae dau aelod annibynnol yn aelodau gydag ef, sef:
- Dyfrig John CBE, Cadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality a chyn Ddirprwy Gadeirydd a Phrif Weithredwr Banc HSBC; ac
-
Yr Athro Noel Lloyd CBE, cyn Is-Ganghellor a Phrifathro Prifysgol Aberystwyth.
- Mae yna bedwar enwebai o bleidiau gwleidyddol, pob un wedi’i enwebu gan un o’r pedair plaid yn y Cynulliad, sef:
- Yr Athro Nick Bourne, enwebai Ceidwadwyr Cymru, a chyn arweinydd Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad;
- Sue Essex, enwebai Plaid Lafur Cymru, a chyn Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru;
- Rob Humphreys, enwebai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, a Chyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru; a
- Dr Eurfyl ap Gwilym, enwebai Plaid Cymru, a chyn Ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas Adeiladu’r Principality.