Data Trafodiad mis Medi 2015
Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Medi 2015.
Land from the sky
Ym mis Medi 2015:
- y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,513,920 o geisiadau
- De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 349,215 o geisiadau
- Birmingham ar frig y tabl o geisiadau gan awdurdodau lleol gyda 23,263 o geisiadau
Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,513,900 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys 1,480,274 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda;
- 373,424 yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
- 680,982 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
- 210,635 yn chwiliadau
- 88,229 yn drafodion am werth
| Rhanbarth | Ceisiadau |
|---|---|
| De Ddwyrain Lloegr | 349,215 |
| Llundain Fwyaf | 295,233 |
| Gogledd Orllewin Lloegr | 164,953 |
| De Orllewin Lloegr | 151,984 |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | 131,438 |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | 115,551 |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | 105,811 |
| Gogledd Lloegr | 70,082 |
| Cymru | 68,770 |
| Dwyrain Anglia | 60,740 |
| Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) | 90 |
| Ynysoedd Sili | 53 |
| Cyfanswm | 1,513,920 |
| Tri phrif awdurdod lleol | Ceisiadau |
|---|---|
| Birmingham | 23,263 |
| Dinas Westminster | 21,061 |
| Leeds | 16,945 |
| Tri phrif gwsmer | Trafodion am werth |
|---|---|
| My Home Move Limited | 2,036 |
| O’Neill Patient | 966 |
| Countrywide Property Lawyers | 964 |
| Tri phrif gwsmer | Chwiliadau |
|---|---|
| Enact | 9,611 |
| Optima Legal Services | 6,194 |
| O’Neill Patient | 5,901 |
Mynediad i’r set lawn o ddata.
Nodiadau i olygyddion
- Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Hydref ar ddydd Gwener 20 Tachwedd 2015 am 11 y bore yn data.gov.
- Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad.
- Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
- Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestr Tir wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i www.gov.uk/land-registry
- Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook.
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344