Digwyddiad Tollau Hafren yn llwyddiant ysgubol
Disgwyl cynulleidfa lawn yn nigwyddiad Llywodraeth y DU i hyrwyddo twf ar y ddwy ochr i’r ffin

Severn Crossing
Bydd cynulleidfa lawn o’r ddwy ochr i Fôr Hafren yn bresennol yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd yn nes ymlaen yn ystod y mis yma pan fydd Llywodraeth Cymru’n cynnal Uwchgynhadledd Twf Hafren (22 Ion), y digwyddiad cyntaf o’i fath.
Mae 350 o gynadleddwyr wedi cofrestru i fynychu’r digwyddiad cyntaf sy’n cael ei gynnal gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, i edrych ar sut gellir cryfhau’r cysylltiadau rhwng economïau De Cymru a De Orllewin Lloegr yn dilyn y cyhoeddiad am ddiddymu Tollau Hafren yn nes ymlaen eleni.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Rydw i’n falch iawn o weld ymateb mor bositif gan gymunedau i’r digwyddiad cyntaf yma sy’n llawn. Mae’r ffaith bod y digwyddiad wedi gwerthu mor gyflym yn dystiolaeth glir o’r dyhead i ddod â phobl a diwydiant yn nes at ei gilydd ar y ddwy ochr i’r ffin. Dyma holl bwrpas Uwchgynhadledd Twf Hafren.
Mae’r digwyddiad yma’n ddechrau ar sgwrs bwysig a fydd yn trawsnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol ar y cyd De Cymru a De Orllewin Lloegr. Yn rhoi hwb i’r economi leol o fwy na £100m yr un a phob blwyddyn gyda’r penderfyniad polisi mawr hwn gan Lywodraeth y DU, mae’r neges yn glir bod Cymru ar agor ar gyfer busnes.
Rydw i’n edrych ymlaen at groesawu partneriaid o’r ddwy ochr i ffin Cymru a Lloegr i’r Uwchgynhadledd ac yn gobeithio y gallwn ni fanteisio ar y cyfle yma i feddwl ar raddfa fawr er mwyn gwneud ein heconomïau’n gryfach, yn fwy deinamig ac yn addas ar gyfer y dyfodol.