Dyddiad cau ar gyfer Ffurflenni Treth Hunanasesiad: llai na mis ar ôl
Mae angen i fwy na 5.5 miliwn o drethdalwyr lenwi eu Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2017 i 2018 cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2019.

Self Assessment promotional image - 'Don't let your tax return peck away at you - do it by 31 January'/ Delwedd hyrwyddo Hunanasesiad - ‘Peidiwch â gadael i’ch Ffurflen Dreth eich pigo - cyflwynwch hi erbyn 31 Ionawr’.
Mae gan tua 5,542,000 o drethdalwyr lai na mis i lenwi eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad cyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2019.
At ei gilydd, mae dros 11.5 miliwn o Ffurflenni Treth ar gyfer 2017 i 2018 i’w cyflwyno. Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn disgwyl y bydd y mwyafrif helaeth o drethdalwyr yn llenwi eu Ffurflenni Treth, ac yn talu unrhyw dreth sydd arnynt, erbyn diwedd y mis.
Ar 31 Rhagfyr 2018, roedd tua 52% o drethdalwyr eisoes wedi cyflwyno eu Ffurflenni Treth, ac roedd dros 5 miliwn o’r rheiny wedi llenwi eu Ffurflenni Treth ar-lein (88% o’r holl Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno).
Os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gweler ein harweiniad ar-lein.
Meddai’r Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys, Mel Stride:
Mae’n galonogol bod tua 52% o drethdalwyr eisoes wedi llenwi eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad. Gyda llai na mis ar ôl tan y dyddiad cau, mae yna dal i fod llawer o bobl y mae angen iddynt weithredu ar unwaith.
Mae CThEM yn annog pawb sy’n cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad i lenwi’r rheiny erbyn 31 Ionawr, ac mae’n cynnig cymorth bob cam o’r ffordd.
Meddai Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:
Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad, sef 31 Ionawr, yma cyn pen dim. Er hynny, mae dal i fod amser gan gwsmeriaid i gyflwyno eu Ffurflenni Treth ar-lein, a hynny mewn pryd er mwyn osgoi cosbau diangen.
Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad am y tro cyntaf, neu os nad ydych wedi dechrau ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018 hyd yn hyn, mae yna ystod eang o gymorth ac arweiniad ar gael ar GOV.UK i helpu ar bob cam o’r broses.
Mae help i’w gael hefyd ar wefan GOV.UK, neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900 ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae’n rhaid i unigolyn lenwi Ffurflen Dreth os yw unrhyw un o’r canlynol yn wir:
- enillodd fwy na £2,500 drwy roi eiddo ar osod
- cafodd ef neu ei bartner Fudd-dal Plant, ac roedd gan y naill neu’r llall incwm blynyddol o fwy na £50,000
- cafodd fwy na £2,500 o incwm arall heb ei drethu, er enghraifft o ganlyniad i gildyrnau neu gomisiwn
- mae’n unig fasnachwr hunangyflogedig
- mae’n gyflogai sy’n hawlio mwy na £2,500 o dreuliau
- mae ganddo incwm blynyddol dros £100,000
- enillodd incwm o dramor y mae angen iddo dalu treth arno
Os llenwodd cwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad y llynedd ond nid oedd ganddynt dreth i’w thalu, mae dal yn rhaid iddynt lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018, oni bai bod CThEM wedi ysgrifennu atynt i roi gwybod nad oes angen gwneud hynny.
Rhagor o wybodaeth
Ffeithiau ynghylch Hunanasesiad:
- 11,564,363 miliwn - cyfanswm y Ffurflenni Treth Hunanasesiad sydd i’w cyflwyno
- 6,022,579 miliwn - nifer y Ffurflenni Treth sydd wedi dod i law erbyn 31 Rhagfyr 2018
- 5,541,784 miliwn - nifer y Ffurflenni Treth sydd heb eu cyflwyno erbyn 31 Rhagfyr 2018
- 5,318,636 miliwn - nifer y Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno ar-lein (88% o gyfanswm y rhai sydd wedi’u cyflwyno) erbyn 31 Rhagfyr 2018
- 703,943 - nifer y Ffurflenni Treth sydd wedi’u cyflwyno ar bapur (12% o gyfanswm y rhai sydd wedi’u cyflwyno) erbyn 31 Rhagfyr 2018
Y cosbau ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr:
- cosb benodol gychwynnol o £100, sy’n gymwys hyd yn oed os nad oes treth i’w thalu, neu os yw’r dreth sy’n ddyledus yn cael ei thalu mewn pryd
- ar ôl 3 mis, cosbau ychwanegol o £10 y dydd, hyd at uchafswm o £900
- ar ôl 6 mis, cosb bellach sef 5% o’r dreth sy’n ddyledus neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf
- ar ôl 12 mis, cosb arall sef 5% neu £300, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf
Mae yna gosbau ychwanegol am dalu’n hwyr hefyd sef 5% o’r dreth sydd heb ei thalu ar ôl 30 diwrnod, 6 mis a 12 mis.
Mae treth yn cael ei didynnu’n awtomatig o gyflogau, pensiynau neu gynilion y rhan fwyaf o drethdalwyr yn y DU. Ond, mae’n rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi’i didynnu’n awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.