Adran 28 ar gyfer dioddefwyr a thystion bregus yn Llysoedd y Goron
Mae'r adran hon yn darparu'r opsiwn i achwynwyr bregus, yn ogystal a thystion, gan gynnwys plant recordio tystiolaeth ymlaen llaw cyn y treial.

Mae Adran 28 Deddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999 yn galluogi recordio tystiolaeth a chroesholi cyn y treial, yn amodol ar ddisgresiwn barnwrol.
Mae’n berthnasol i achwynwyr bregus (y cyfeirir atynt fel dioddefwyr) a thystion, waeth beth fo’r drosedd, ac mae’n cynnwys:
- pob tyst sy’n blentyn
- unrhyw dyst y mae ansawdd ei dystiolaeth yn debygol o fod yn llai am ei fod:
a. yn dioddef o anhwylder meddyliol
b. â nam sylweddol ar ddeallusrwydd a gweithrediad cymdeithasol
c. ag anabledd corfforol neu’n dioddef o anhwylder corfforol.
Mae darparu’r gwasanaeth hwn wedi bod yn bosibl gyda chefnogaeth y farnwriaeth, cymdeithasau proffesiynol cyfreithiol, a gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a thystion.
Sut mae’n gweithio
Lle mae’r barnwr yn rhoi cyfarwyddyd i’r perwyl hwnnw, mae a.28 yn caniatáu inni recordio’r broses o groesholi dioddefwyr a thystion bregus cyn y treial llawn, heb fod yn y llys. Yna caiff y dystiolaeth honno ei chwarae yn ystod y treial, sydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn golygu nad oes angen i’r unigolyn bregus fod yn bresennol.
Cwblheir recordiad a.28 yn agos at adeg y drosedd drwy amserlen hwylus, gan helpu i wella gallu pobl i gofio pethau a lleihau’r trallod a brofir gan rai tystion wrth roi tystiolaeth mewn llys llawn yn ystod y treial.
Bydd yr amddiffyniad a’r erlyniad yn bresennol yn y llys cyn recordio, yn ogystal â’r barnwr a’r diffynnydd.
Nid yw’r croesholi a recordir ymlaen llaw yn effeithio ar hawl y diffynnydd i gael treial teg.
Llysoedd sy’n cynnig y gwasanaeth a.28
Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn Kingston-upon-Thames, Leeds a Lerpwl yn ogystal â’r broses o’i gyflwyno wedyn mewn safleoedd ychwanegol, mae’r cynllun wedi bod ar gael i dystion bregus mewn o leiaf un llys ym mhob rhanbarth ers yn gynharach eleni.
Mae’r mesur bellach ar gael ym mhob un o lysoedd y Goron yng Nghymru a Lloegr.
Tystion sy’n cael eu bygwth
Y llynedd, dechreuwyd cynllun peilot i brofi’r dechnoleg ar gyfer tystion sy’n cael eu bygwth (oedolion sy’n ddioddefwyr troseddau rhywiol a throseddau caethwasiaeth fodern) mewn tri llys lle mabwysiadwyd y cynllun yn gynnar (Lerpwl, Leeds a Kingston-upon-Thames).
Efallai y bydd yn cael ei gyflwyno’n ehangach yn amodol ar werthuso’r cynllun peilot hwn.