Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol yn croesawu cyhoeddiad ynglyn a chyllid S4C

Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu'r cyhoeddiad fod cyllid S4C yn parhau ar ei lefel presennol.

Yn dilyn cyhoeddiad Ymddiriedolaeth y BBC bydd cyllid S4C yn cael ei gadw ar ei lefel bresennol o £ 74.5m hyd at 2022, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n falch iawn bod cyllid S4C wedi cael ei ddiogelu ar ei lefel bresennol hyd at 2021/2022. Mae llawer o sefydliadau wedi gweithio’n galed i helpu sicrhau y setliad hwn, a fydd yn diogelu dyfodol S4C am flynyddoedd lawer i ddod.

Mae S4C yn chwarae rhan bwysig yng Nghymru, drwy atgyfnerthu yr iaith a diwylliant Cymraeg o fewn ei chymunedau, a byddaf yn parhau i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau llwyddiant parhaus y sianel.

Cyhoeddwyd ar 7 September 2016