Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol yn canmol rôl y fyddin ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yn Ne Cymru

Dathliadau'n mynd rhagddynt ar hyd a lled Cymru i nodi Diwrnod blynyddol y Lluoedd Arfog

Armed Forces Day

Bydd dathliadau’n mynd rhagddynt ar hyd a lled Cymru heddiw (24 Mehefin) i nodi Diwrnod blynyddol y Lluoedd Arfog, sy’n cael ei gynnal am y nawfed tro.

Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn ymuno â miloedd o bobl yn nathliadau De Cymru yng Nghaerffili i anrhydeddu gwaith ac ymroddiad ein Milwyr dewr sy’n gweithio ym mhob cwr o’r byd.

Bydd Mr Cairns yn darllen yn y Gwasanaeth Awyr Agored traddodiadol o flaen Castell Caerffili, cyn mwynhau rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd yn cynnwys arddangosfeydd milwrol a cherddoriaeth fyw.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mewn gweithrediadau gartref a thramor, mae dynion a merched y lluoedd arfog yn gweithio i amddiffyn diogelwch, annibyniaeth a buddiannau ein gwlad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Yng Nghymru mae gennym gysylltiad arbennig â’n Lluoedd Arfog ac mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a’u balchder i’n milwyr, morwyr ac aelodau’r llu awyr sy’n aberthu cymaint dros eraill.

Rydym yn hynod ddyledus hefyd i’r teuluoedd maent yn eu gadael ar ôl, yn ogystal â’r cyn-filwyr presennol a rhai’r gorffennol sydd wedi ymroi blynyddoedd o’u bywydau i’r gwasanaeth. Rwy’n falch iawn o dreulio Diwrnod y Lluoedd Arfog 2017 yn eu cwmni.

Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd yn dangos cefnogaeth i’r Lluoedd Arfog Prydeinig eleni. Cafodd Aelodau sy’n gwasanaethu’r Fyddin, y Llynges a’r Awyrlu Brenhinol wahoddiad i gymysgu â thîm rygbi cenedlaethol Cymru yn eu canolfan hyfforddi ym Mro Morgannwg cyn iddynt adael ar gyfer eu taith haf i Tonga a Samoa.

Dangosodd Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru gefnogaeth bellach hefyd drwy chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog uwch ben Tŷ Gwydyr, pencadlys yr adran yn Llundain.

Nodiadau i olygyddion

  • Bydd Digwyddiad Lluoedd Arfog Cenedlaethol 2017 yn cael ei gynnal yn Lerpwl ar 24 Mehefin.
  • Mae rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog ar gael drwy fynd yma
Cyhoeddwyd ar 24 June 2017