Yr Ysgrifennydd Gwladol yn cael profiad uniongyrchol o’r Aston Martin moethus newydd a fydd yn cael ei adeiladu yng Nghymru
Heddiw, mae Alun Cairns wedi bod yn cael golwg ar ddyluniadau manwl ar gyfer car DBX newydd Aston Martin – a fydd yn cael ei adeiladu yng Nghymru. Dywedodd ei fod yn “bleidlais enfawr o hyder yn sector gweithgynhyrchu Cymru.”
Heddiw, mae Alun Cairns wedi bod yn cael golwg ar ddyluniadau manwl ar gyfer car DBX newydd Aston Martin – a fydd yn cael ei adeiladu yng Nghymru. Dywedodd ei fod yn “bleidlais enfawr o hyder yn sector gweithgynhyrchu Cymru.”
Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad ar ôl cael taith o gwmpas prif swyddfa Aston Martin Lagonda yn Gaydon yn Swydd Warwick.
Gwelodd ddyluniadau diweddaraf ar gyfer car DBX y cwmni, a fydd yn cael ei gynhyrchu yn Sied Fawr Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Ym mis Chwefror eleni, cyhoeddodd Aston Martin Lagonda y byddai’r DBX – cerbyd cyflym bob pwrpas – yn cael ei wneud yn Sain Tathan gan greu 750 o swyddi a 1,000 yn rhagor yn y gadwyn gyflenwi ac ym musnesau lleol. Bydd gwaith ar y ffatri yn dechrau yn 2017, gyda’r cerbyd yn dechrau cael ei gynhyrchu dair blynedd yn ddiweddarach.
Dywedodd Mr Cairns:
Mae penderfyniad Aston Martin Lagonda i ddod i Gymru yn bleidlais enfawr o hyder yn sector gweithgynhyrchu Cymru.
Mae’n dangos bod allforwyr mawr sydd am gael gweithlu medrus a chysylltiadau trafnidiaeth hwylus yn dewis Cymru fel canolfan weithgynhyrchu. Rwy’n falch bod Swyddfa Cymru wedi llwyddo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau bod hyn yn digwydd.
Roedd cael profiad uniongyrchol o’r cerbydau trawiadol hyn a gweld y cynlluniau cyffrous ar y bwrdd lluniadu yn brofiad gwerth chweil.
Lansiodd Aston Martin y car cysyniadol moethus DBX yn 85fed sioe foduron Geneva International yn 2015. Mae’r cerbyd gyriant pedair olwyn yn cyfuno peirianneg arloesol â dyluniad byd-enwog Aston Martin.