Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu’r ail raglen ddeddfwriaethol yn Araith EM y Frenhines 9 Mai 2012

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer Ail Sesiwn y Senedd a gyhoeddwyd yn Araith…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Croesawodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer Ail Sesiwn y Senedd a gyhoeddwyd yn Araith y Frenhines heddiw. Mae Llywodraeth y glymblaid wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y cytunir ar unrhyw ddarpariaethau sy’n galw am gydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Mrs Gillan: “Mae Araith y Frenhines yn adlewyrchu gwerthoedd y Llywodraeth hon ac yn adeiladu ar ein llwyddiannau dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Bydd y ddeddfwriaeth rydym yn ei chynnig yn dal i fod o fudd i bobl Cymru wrth i’r Llywodraeth ganolbwyntio ar leihau’r diffyg ac adfer sefydlogrwydd economaidd, lleihau ac atal trosedd, cynnig diwygiadau cyfansoddiadol a moderneiddio’r system pensiynau.

“Mae’r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau anodd a thymor hir sydd o fudd i Gymru ac i’r Deyrnas Unedig. Drwy wneud hynny gallwn ysgogi buddsoddiad a thwf economaidd ac adeiladu cymdeithas sy’n deg ac yn gwobrwyo’r rheini sy’n gweithio’n galed ac yn gwneud y peth iawn. Mae’r holl Fesurau a gynigiwyd heddiw yn Araith y Frenhines, ac eithrio un, yn berthnasol i Gymru a fy nod yw gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni’r gorau i Gymru.”

Cyhoeddwyd ar 9 May 2012