Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawu cynnydd yng nghyfraddau allforion Cymru yn 2011
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw wedi croesawu cyhoeddi ffigurau sy’n dangos fod allforion Cymru wedi cynyddu 13.8% o gymharu a’r flwyddyn…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw wedi croesawu cyhoeddi ffigurau sy’n dangos fod allforion Cymru wedi cynyddu 13.8% o gymharu a’r flwyddyn flaenorol. Hefyd dangosodd yr ystadegau, a gynhyrchwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, bod gwerth allforion Cymru ar gyfer 2011 yn gyfan gwbl wedi cynyddu £1,629 miliwn o gymharu a 2010.
Gan groesawu’r cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:
“Mae busnesau Cymru yn gweithredu mewn cyfnod dyrys ac mewn marchnadoedd byd-eang cystadleuol, ac felly rwyf wrth fy modd yn gweld bod cynifer ohonynt yn wynebu’r sialensiau hyn ac yn gwneud argraff dramor.
“Rydym am greu amodau manteisiol i fusnesau Cymru ffynnu a llewyrchu mewn marchnadoedd tramor. Mae yna eisoes rai enghreifftiau gwych o fusnesau yn allforio yn y wlad hon, ond rwy’n gwybod bod llawer mwy yn awyddus i gystadlu yn fyd-eang a sicrhau busnes a chontractau newydd proffidiol mewn marchnadoedd tramor.
“Dyna pam bod yn rhaid i ni barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda UKTi, gyda Llysgenhadon a Llysgenadaethau er mwyn sicrhau bod Cymru yn elwa’n llawn o ymdrechion Llywodraeth y DU i gynyddu masnach tramor. Rydym eisoes yn cymryd camau pendant i wella masnach, buddsoddi ac amodau twf yn yr economi, gan gynnwys lleihau’r baich rheoleiddio ar fusnesau yn ein Red Tape Challenge (Her Lleihau Biwrocratiaeth), a gostwng Treth Gorfforaethol.
“Hoffwn weld ein busnesau, beth bynnag fo’u maint, yn edrych allan i’r farchnad fyd-eang. Ni ddylen ni guddio’r hyn sydd gennym i’w gynnig ond yn hytrach fe ddylen ni fod yn falch o’n llwyddiannau a chystadlu ar y llwyfan rhyngwladol.”