Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n croesawu Aston Martin
Alun Cairns yn croesawu gwneuthurwyr ceir moethus i safle yn ne Cymru.

Aston Martin
Mae Aston Martin wedi cwblhau’r broses o brynu tir yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, lle byddant yn adeiladu eu model DBX newydd.
Mae’r gwaith ar y cyfleusterau i staff ar y safle wedi dechrau eisoes, gyda’r ail gam yn dechrau fis Ebrill, pan fydd y cwmni yn cael mynediad i dair sied awyrennau enfawr y Weinyddiaeth Amddiffyn, a fydd yn gartref i’r safle gweithgynhyrchu.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS:
Mae’r ffaith fod Aston Martin wedi dewis Cymru yn anfon neges glir i’r prif gwmnïau byd-eang ym mhob cwr o’r byd fod Cymru yn agored i fusnes.
Rydyn ni wedi creu’r amodau delfrydol ar gyfer twf economaidd, sydd wedi helpu i ddenu’r gwneuthurwr ceir unigryw ac arloesol hwn i dde Cymru. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn adlewyrchu ein seilwaith ardderchog, ein cronfa dalent sydd gyda’r gorau yn y byd, a’r ffaith fod gan fusnesau yr hyder i ehangu yng Nghymru.