Ysgrifennydd Gwladol Cymru: datganiad ar Ystadegau’r Farchnad Lafur
Mae ffigurau diweddaraf y Farchnad Lafur a ryddhawyd heddiw yn dangos bod adferiad marchnad lafur Cymru yn dal yn fregus, ond gwelir rhai arwyddion…
Mae ffigurau diweddaraf y Farchnad Lafur a ryddhawyd heddiw yn dangos bod adferiad marchnad lafur Cymru yn dal yn fregus, ond gwelir rhai arwyddion bod pethau’n gwella, meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan.
Erbyn hyn, mae’r gyfradd ddiweithdra yn 8.5%, sydd 0.7% yn is na’r chwarter diwethaf. Dyma’r gostyngiad mwyaf o blith holl ranbarthau a chenhedloedd y DU.
Meddai Mrs Gillan: “Rwy’n croesawu’r ffaith bod y lefel ddiweithdra wedi gostwng yng Nghymru ond mae’n dal yn annerbyniol o uchel, ac mae’n rhaid i ni beidio byth ag anghofio’r unigolion sydd y tu ol i’r ffigurau hyn. I unrhyw un sy’n colli eu gwaith, mae’n dorcalonnus iddynt hwy ac i’w teuluoedd.
“Mae’r Llywodraeth glymblaid wedi ymrwymo i gynnig atebion newydd i’r problemau hyn drwy’r rhaglen ‘o fudd-dal i waith’ a fydd yn disodli’r cynlluniau sy’n bodoli eisoes ac yn helpu pawb sy’n ddi-waith i fynd yn ol i weithio mor gyflym a phosib.”